Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Sut i ddefnyddio'r map terfynol

Y mapiau a geir yn y fan yma yw’r mapiau drafft, dros dro a therfynol a gyhoeddwyd pan gynhaliodd y Cyngor Cefn Gwlad broses ymgynghori o ganlyniad i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Defnyddio'r map

Mae'r mapiau hyn i gyd yn fapiau delwedd statig, sy'n golygu na allwch ryngweithio gyda hwy fel y gallwch gyda'r mapiau ‘Mynediad i Gefn Gwlad’. Mae pob ardal ymgynghori'n cynnwys set o fapiau y gellir edrych arnynt mewn manylder agosach, i bwrpas chwiliadau tir gan Gyfreithiwr er enghraifft.

Dewis ardal ymgynghori

Gallwch wneud hyn drwy glicio naill ai ar y map neu ar un o'r dewisiadau A i O ar gornel chwith isaf y sgrîn.

Ynglŷn â'r dudalen Gwybodaeth Gyffredinol

Mae gwybodaeth gefndirol i'w chael yma am fapiau mynediad agored CGHT, ac am y tri cham yr aethom drwyddynt i gynhyrchu'r mapiau terfynol (diffiniol).

Cliciwch ar y map trosolwg o Gymru yn y gornel chwith isaf er mwyn canfod sut i newid yr ardal ymgynghori neu fynd yn ôl i'r map ‘Cymru Gyfan’ gwreiddiol.

Cliciwch ar bob un o'r botymau canlynol i weld beth maent yn ei wneud:

Cysylltwch â ni — gellir defnyddio hwn ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r tudalennau hyn
Yn ôl — sy'n mynd â chi'n ôl i'r dudalen flaenorol
English — sy'n caniatáu i chi edrych ar fersiynau Saesneg o’r tudalennau hyn

Sut mae dod o hyd i'r map cywir ar gyfer yr ardal ymgynghori yr wyf wedi ei dewis?

Cliciwch naill ai ar y botwm drafft, y botwm dros dro neu'r botwm terfynol.

Fe welwch fap amlinellol ar gyfer yr ardal ymgynghori a'r math o fap yr ydych wedi eu dewis. Gallwch hefyd gyfnewid rhwng fersiynau drafft, dros dro a therfynol y map o'r ardal ymgynghori.

Sut mae edrych ar y mapiau eu hunain?

Cliciwch gyda'ch llygoden ar un o'r sgwariau bocs melyn sy'n ffurfio'r ardal ymgynghori. Bydd tudalen newydd yn cael ei harddangos, yn cynnwys naw sgwâr sy'n ffurfio darn ‘wedi ei chwyddo i mewn’ o'r map, sy'n dangos y darn o dir yr ydych wedi dewis edrych arno.

Symud y mapiau o gwmpas

Cliciwch ar y saethau oren gyda'ch llygoden i symud i fyny, i lawr, i'r chwith neu i'r dde er mwyn gweld rhannau o'r map sydd y tu allan i'r ardal yr ydych wedi ei dewis.

Oes golwg agosach ar fy map i'w chael?

Defnyddiwch eich llygoden eto i glicio ar unrhyw un o'r naw sgwâr bocs melyn a gweld golwg fanylach ar y sgwâr arbennig hwnnw.

Alla' i brintio'r map?

Nid yw ein trwydded Arolwg Ordnans ond yn caniatáu i chi wneud copi papur o'r ddelwedd o'r map sy'n dangos ar y sgrîn.

Sut mae mynd yn ôl i'm man cychwyn?

Cliciwch ar y botwm ‘Yn ôl’ er mwyn mynd yn ôl i'r dudalen flaenorol.

Os byddwch yn cael unrhyw anhawster i ddilyn y cyfarwyddiadau hyn, neu os oes arnoch angen mwy o gyfarwyddiadau, defnyddiwch y botwm ‘Cysylltwch â ni’ er mwyn gofyn am gymorth ychwanegol gan ein Tîm Cefn Gwlad.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim Cefn Gwlad
(Mynediad Cefn Gwlad)
C/O Ymholiadau
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
08451 306229
Adborth y dudalen