Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Mapiau Mynediad Agored

Croeso

Mapiau mynediad agored Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) (CGHT)

Ar y tudalennau yma, gallwch ddod o hyd i fapiau drafft, mapiau dros dro a mapiau terfynol ar gyfer pob un o’r 14 ardal ymgynghori.

Gwybodaeth ychwanegol

Pan ddaeth Deddf CGHT i rym, rhoddwyd y dasg o ddiffinio tir mynediad agored – sef mynydd-dir, gweundir, rhostir, twyndir a thir comin cofrestredig – ar ysgwyddau’r Cyngor Cefn Gwlad. Y cam cyntaf yn y broses oedd rhannu Cymru yn 14 o ardaloedd ymgynghori gwahanol, gan lunio mapiau ar gyfer pob ardal [mapiau drafft, dros dro a therfynol]. Cwblhawyd y broses hon ym mis Mawrth 2005, ac ym mis Mai 2005 fe lansiwyd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Y ‘mapiau terfynol’ yma yw’r mapiau sylfaenol a welir yn ffenestr y mapiau mynediad i gefn gwlad. Hefyd, cânt eu defnyddio gan yr Arolwg Ordnans ar gyfer eu mapiau Explorer 1:25000. Gallwch gael mwy o wybodaeth am dir mynediad agored a mathau eraill o dir mynediad yn y bennod ‘Mwynhau Cefn Gwlad’.

Mae’r mapiau’n seiliedig ar fapiau’r Arolwg Ordnans 1:25000 ac 1:50000 Amodau a'r telerau

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, 100018813 (2008) Nid yw'r disgrifiad o hawliau mynediad yn awgrymu nac yn mynegi unrhyw sicrwydd ynglyn â'i gywirdeb neu'i gyflawnrwydd. Nid yw'r dull o gynrychioli unrhyw ffordd, unrhyw drac neu unrhyw lwybr ar y map yma yn dystiolaeth o hawl dramwy. I weld yr amodau a'r telerau llawn cliciwch yma