Adnabod tir mynediad
O dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy
(CROW), tir agored yw’r rhan fwyaf o dir mynediad. Rhostir gwyllt,
mynydd, gwaun a rhos. Clytwaith o dirweddau sy’n cynnwys 'tir
comin' (tir sy’n cael ei gofnodi ar y cofrestrau swyddogol ac yn
nwylo’r awdurdodau cofrestru tir comin), ynghyd ag ardaloedd eraill
o ‘fforestydd cyhoeddus dynodedig’ ble mae’r tirfeddianwyr yn
caniatáu mynediad – er enghraifft, y Comisiwn Coedwigaeth.
Mae modd gweld tir mynediad agored CROW ar fapiau “Explorer” yr
Arolwg Ordnans(1:25000).
Mae’r ardaloedd CROW wedi eu lliwio’n felyn gydag ymylon
oren-frown.
Dangosir tir coedwigaeth sydd wedi ei ddynodi ar gyfer mynediad
cyhoeddus mewn lliw gwyrdd golau, gyda’r un ymyl oren-frown.
Dangosir tir CROW hefyd mewn lliw melyn ar ein map mynediad
rhyngweithiol.
Rydym hefyd yn dangos tir mynediad statudol arall fel Adran 15
Deddf CROW sy'n cynnwys tir comin mewn trefi a thir comin gyda
gweithredoedd ar gyfer mynediad, tir o dan Ddeddf Tiroedd Comin
1899 a thir o dan Ddeddf Breifat neu Leol.
Tra byddwch yn cerdded allan yn yr awyr iach, cofiwch chwilio am
y symbol mynediad ar arwyddion.
Mae mapiau Arolwg Ordnans (OS) “Explorer” hefyd yn tynnu sylw at
bwyntiau gwybodaeth allweddol ar gyfer tir mynediad CROW. Mae
gwybodaeth bwysig yn cael ei harddangos yn y llefydd yma, gan
gynnwys unrhyw gyfyngiadau a allai fod mewn grym.
Nid yw mapiau Arolwg Ordnans “Explorer” yn dangos Tir Cymen na
Thir Gofal na darnau o dir mynediad CROW sy’n llai na 5 hectar.