Cyfyngiadau ar y tir
Mae modd mwynhau’r awyr iach mewn
pob math o lefydd yng Nghymru. Ond weithiau bydd amgylchiadau
arbennig yn eich cyfyngu. Mae’r cyfyngiadau hyn mewn grym fel arfer
er mwyn diogelu’r dirwedd ac er mwyn diogelu pobl ...
Mae gwahanol fathau o gyfyngiadau tir ac maen nhw’n gallu
amrywio yn ôl amser – rhai am gyfnodau byr, eraill am gyfnodau hir.
Mae rhai yn barhaol hyd yn oed.
Er nad oes cyfyngiadau mewn grym ar hawliau tramwy, fel llwybrau
cyhoeddus, maen nhw’n gallu rheoli mynediad i ardaloedd
penodol.
Er enghraifft, efallai fod cŵn yn cael eu gwahardd neu fod rhaid
i chi fynd i mewn neu adael mewn mannau penodol.
Gall rhai cyfyngiadau eich rhwystro rhag ymweld â mannau yn
gyfangwbl.
Pwy sy’n gosod y cyfyngiadau?
- Fe all yr ‘Awdurdodau Perthnasol’ fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
y Comisiwn Coedwigaeth ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol osod
‘cyfyngiad drwy gyfarwyddyd’.
- Gall tirfeddianwyr, tenantiaid a phobl sydd â diddordeb
cyfreithiol yn y tir gysylltu ag un o’r awdurdodau perthnasol un ai
i wneud cais am ‘gyfyngiad' neu i roi rhybudd o
'gyfyngiad dewisol’.
- Mae’n bosib hefyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn
a’r Ysgrifennydd Cartref osod cyfyngiadau yn sgil gofynion
amddiffyn neu ddiogelwch cenedlaethol.