Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Mathau o gyfyngiadau tir

Mae cyfyngiadau yn cael eu defnyddio er mwyn cadw cydbwysedd rhwng anghenion y cerddwyr ac anghenion ffermwyr. Yn y pen draw, y bwriad yw diogelu’r cyhoedd fel bod pawb yn cael mwynhau cefn gwlad. Mae dau brif fath o gyfyngiad ...

Cyfyngiadau dewisol

Mae’r math yma o gyfyngiad yn ddefnyddiol i dirfeddianwyr a thenantiaid sydd am gyfyngu neu rwystro mynediad. Yn ystod tymor wyna, er enghraifft.

Mae modd eu gosod a’u tynnu ymaith ar fyr rybudd, felly mae’n bwysig chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan yma – a hefyd chwilio’n ofalus am arwyddion ar y tir!

Mae cyfyngiad o ychydig oriau yn cael ei gyfri’n ddiwrnod llawn – a dim ond ar 28 diwrnod mewn unrhyw un flwyddyn calendr y gellir defnyddio cyfyngiadau o’r fath.

Does dim modd gosod cyfyngiadau dewisol:

  • Ar Wyliau Banc, Dydd Nadolig na Gwener y Groglith
  • Ar fwy na phedwar o ddyddiau penwythnos
  • Ar unrhyw Sadwrn rhwng Mehefin 1 a Awst 11
  • Ar unrhyw Sul rhwng Mehefin 1 a Medi 30

Cyfyngiadau drwy gyfarwyddyd (gyda chais)

Mae modd i unrhyw un sydd â diddordeb cyfreithiol yn y tir wneud cais i’r “Awdurdod Perthnasol” (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a'r Comisiwn Coedwigaeth) am gyfyngiad drwy gyfarwyddyd.

Gellir gwneud cais am un o’r rhain am un neu fwy o’r rhesymau hyn:

  • rhesymau rheoli tir
  • er mwyn osgoi’r peryg o dân
  • er mwyn osgoi peryg i’r cyhoedd

Os yw’r cais yn cael ei wrthod, mae gan yr ymgeisydd hawl i apelio. Dyw statws mynediad y tir ddim yn newid yn ystod apêl.

Cyfyngiadau drwy gyfarwyddyd (heb gais)

Dan amgylchiadau arbennig, mae modd hefyd i’r “awdurdod perthnasol” osod cyfyngiad heb gais gan berson gyda diddordeb cyfreithiol:

  • er mwyn osgoi’r peryg o dân
  • er mwyn osgoi peryg i’r cyhoedd
  • am resymau cadwraeth natur neu dreftadaeth ddiwylliannol
Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim cefn gwlad (Mynediad Cefn Gwlad)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
01248 385420
Adborth y dudalen