Beth yw mynediad caniataol?
Mewn rhai achosion, bydd tirfeddianwyr yn rhoi
caniatâd i bobl gerdded drwy dir preifat, er nad oes gan yr
ymwelwyr unrhyw hawliau cyfreithiol.
Mae’r ‘mynediad drwy ganiatâd’ yma, mewn lliw piws ar ein
map mynediad i gefn gwlad, yn cynnwys rhywfaint o dir a geir o fewn
cytundebau Tir Gofal, sy'n caniatáu mynediad i rannau penodol o'r
fferm.
Mae hefyd yn cynnwys cytundebau mynediad tir yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol a'r parc Cenedlaethol ac mae'n golygu fod y
tirfeddiannwr neu'r tenant wedi cytuno i ganiatáu
mynediad i'r cyhoedd ar gyfer hamdden awyr agored, fel arfer ar
droed.
Efallai y bydd rhai o’r ardaloedd a’r llwybrau mynediad drwy
ganiatâd ar gau ar rai adegau o’r flwyddyn am resymau amaethyddol
(e.e. adeg wyna neu losgi grug) neu er mwyn diogelu ardaloedd
sensitif (e.e. tra bydd adar prin yn nythu).
Ga’ i fynd a fy nghi?
Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr drwy’r amser mewn ardaloedd neu ar
lwybrau mynediad drwy ganiatâd. Ond mae’n bosib na fydd modd mynd â
chŵn yno o gwbl ar rai adegau o’r flwyddyn.
Yn gyffredinol, gallwch fynd â chi os nad oes cyfyngiad mewn
grym i’ch atal rhag gwneud hynny.
Os oes amheuaeth, cadwch eich ci ar dennyn rhag ofn iddo
niweidio anifeiliaid fferm, adar sy’n nythu neu fywyd gwyllt
arall.
Beth sydd wedi ei wahardd?
Heb ganiatâd y tirfeddiannwr neu’r tenant, chewch chi ddim
gwersylla, seiclo, marchogaeth ceffylau, na rasio, yrru neu reidio
cerbyd oni bai ei fod yn sgwter anabledd neu fygi.
Ar pa dir y mae mynediad drwy ganiatâd?
- Tir Cymen a Thir Gofal – dau
gynllun amaeth-amgylcheddol dan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae
ffermwyr yn arwyddo cytundeb deng mlynedd gan addo rheoli eu
ffermydd mewn ffordd sy’n sensitif i’r amgylchedd. Gall hyn gynnwys
llwybrau arbennig neu fynediad mewn ardaloedd arbennig. Bydd y
llwybrau hyn i gyd wedi eu harwyddo’n glir a bydd arwyddion bychain
i’ch tywys.
- Parciau Gwledig – i’w canfod ar draws Cymru. Mae rhai mewn
perchnogaeth breifat ac yn cael eu rheoli’n breifat, gan yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er enghraifft. Mae’r rhan fwyaf yn
nwylo awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill. Fel arfer, mae
mynediad yn rhad ac am ddim, er efallai fod rhaid talu am barcio
car neu ddefnyddio cyfleusterau, neu pan fydd digwyddiadau arbennig
yn cael eu cynnal.
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- mae gan yr Ymddiriedolaeth dir ble mae mynediad, gan
gynnwys ardaloedd yn y mynyddoedd a ger y glannau. Ewch i wefan yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol am fwy o wybodaeth am diroedd gyda
chaniatâd mynediad.