Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Y Côd Cefn Gwlad

Mae pawb yn mwynhau diwrnod allan yn y wlad – awyr iach, golygfeydd prydferth, seibiant o fywyd pob dydd. Ond mae’n hawdd creu problemau i eraill a chi eich hun – a hynny’r ddiarwybod. Er mwyn gwneud yn siŵr bod eich profiad o gefn gwlad yn ddiogel ac yn gyfrifol, dilynwch y Côd Cefn Gwlad ...

Lluniwyd y  Côd Cefn Gwlad er mwyn i chi fwynhau’r profiad yn llawn gan wneud yn siŵr fod cefn gwlad yn aros yn fan prydferth y gall pawb ei fwynhau.

Mae hefyd yn cynnig cyngor defnyddiol wrth i chi baratoi am eich taith fel eich bod chi a’ch teulu yn ddiogel.

Byw a gweithio yng nghefn gwald

Os ydych yn byw neu’n gweithio yn y wlad, mae’n siŵr y byddwch yn rhannu eich tir gyda’r rhai sy’n dod yno i’w fwynhau.

Mae’r rhai sy’n ymweld â chefn gwlad yn dod ag incwm gwerthfawr i’r economi gwledig yn ogystal â chael budd bersonol o’r ymweliadau.

Bydd y rhan fwyaf o bobl  sy’n ymweld â chefn gwlad yn ei werthfawrogi a’i barchu, er efallai nad ydynt bob tro’n gwybod sut i wneud hynny ac efallai eu bod angen eich help chi.

Plant a chefn gwlad

Ydych chi’n bwriadu mynd â’r plant am drip i’r wlad? Ydych chi angen help wrth sôn am fyd natur – a sut i ymddwyn yng nghefn gwlad? Mae pecynnau addysg y Côd Cefn Gwald yn trafod hyn, a mwy.

Maen nhw ar gael ar wefan y Côd Cefn Gwlad.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y Tîm Cefn Gwlad (Y Cod Cefn Gwlad)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen