Mentro allan…
Yng Nghymru, rydym yn ddigon ffodus i fod o
fewn tafliad carreg i gefn gwlad – hyd yn oed os ydych yn byw mewn
tref neu ddinas, mae cyffro a thawelwch i’w canfod ochr yn ochr â’i
gilydd ...
Tro syml mewn mannau hardd. Abseilio lawr llethrau creigiog.
Mae’r elfennau – awyr, mynydd, a dŵr - yn cyfuno i greu digon o
gyfle i fynd allan i fwynhau’r wlad.
Beth am ymweld â gwarchodfa Cwm y Wydden ym Mhowys a phrofi’r
amrywiaeth eang o fywyd gwyllt sy’n trigo yn llonyddwch tawel y
goedlan, neu wylio’r crëyr glas yng nghoedydd Parc Gwledig Dyffryn
Sirhywi yng Nghaerffili?
Mae yna Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, fel Gwarchodfa Cwm
Idwal yn Eryri, gyda’i golygfeydd gwych a llyn annisgwyl. Mae rhai
o gynefinoedd, tirweddau a bywyd gwyllt pwysicaf Cymru yn y
safleoedd hyn.
Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol ar gael hefyd ac, yn aml, maen
nhw’n drawiadol ac yn llawn o gymeriad lleol, gyda llawer o fywyd
gwyllt. Er enghraifft, gallwch ymweld â Choedydd Pwllycrochan
yng Nghy, ble gallwch glywed sŵn cnocell y coed fywaf yn torri ar
ddistawrwydd y goedlan.
Beth bynnag y penderfynwch ei wneud – gall mwynhau cefn gwlad
wella eich ffitrwydd a’ch iechyd corfforol. Mae cerdded, seiclo a
marchogaeth wrth fwynhau natur a bywyd gwyllt yn dda i’r corff a’r
enaid.
Syniadau newydd ..
Cadwch lygad am fwy o wybodaeth am hamdden ar y safle hwn.
Eleni, byddwn yn edrych ar lwybrau beicio, llwybrau ceffyl a
gweithgareddau fel dringo, archwilio ogofâu a beicio mynydd.
Safleoedd eraill...
Visit Wales
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer twristiaid ar wefan Croeso
Cymru.
Anabledd Cymru
Gallwch gael gwybodaeth am sut y mae Anabledd Cymru yn cynorthwyo i
wella mynediad i gefn gwlad trwy edrych ar eu gwefan.
Y Gorau or Ddau Fyd
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am wneud gweithgareddau antur,
gweithgareddau hamdden a chwaraeon awyr agored mewn modd cyfrifol
ar Y Gorau o’r Ddau Fyd.