Mentro allan…
Yng Nghymru, rydym yn ddigon ffodus i fod o
fewn tafliad carreg i gefn gwlad – hyd yn oed os ydych yn byw mewn
tref neu ddinas, mae cyffro a thawelwch i’w canfod ochr yn ochr â’i
gilydd ...
Tro syml mewn mannau hardd. Abseilio lawr llethrau creigiog.
Mae’r elfennau – awyr, mynydd, a dŵr - yn cyfuno i greu digon o
gyfle i fynd allan i fwynhau’r wlad.
Beth am ymweld â gwarchodfa Cwm y Wydden ym Mhowys a phrofi’r
amrywiaeth eang o fywyd gwyllt sy’n trigo yn llonyddwch tawel y
goedlan, neu wylio’r crëyr glas yng nghoedydd Parc Gwledig Dyffryn
Sirhywi yng Nghaerffili?
Mae yna Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, fel Gwarchodfa Cwm
Idwal yn Eryri, gyda’i golygfeydd gwych a llyn annisgwyl. Mae rhai
o gynefinoedd, tirweddau a bywyd gwyllt pwysicaf Cymru yn y
safleoedd hyn.
Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol ar gael hefyd ac, yn aml, maen
nhw’n drawiadol ac yn llawn o gymeriad lleol, gyda llawer o fywyd
gwyllt. Er enghraifft, gallwch ymweld â Choedydd Pwllycrochan
yng Nghy, ble gallwch glywed sŵn cnocell y coed fywaf yn torri ar
ddistawrwydd y goedlan.
Beth bynnag y penderfynwch ei wneud – gall mwynhau cefn gwlad
wella eich ffitrwydd a’ch iechyd corfforol. Mae cerdded, seiclo a
marchogaeth wrth fwynhau natur a bywyd gwyllt yn dda i’r corff a’r
enaid.
Mapiau Crwydro Cymru arLein
Edrychwch ar fapiau rhyngweithiol Crwydro Cymru arLein er mwyn
cynllunio eich amser yn yr awyr agored yng Nghymru. Mae Crwydro
Cymru arLein yn dangos llwybrau a lleoedd y gallwch fynd i gerdded,
beicio, dringo a mwynhau natur. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Llywodraeth Cymru wedi bod yn
cydweithio i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am fynediad i afonydd,
llynnoedd a chamlesi yng Nghymru i'w dangos ar y mapiau.
Gallwch ddefnyddio Crwydro Cymru arLein i ddod o hyd i bopeth o
heiciau byr neu hir i weithgareddau cychod, a gwylio adar i
ardaloedd picnic. Gallwch ddefnyddio sawl ffordd o chwilio am
leoedd lle gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau drwy:
- nodi enw lle neu god post yn llinell chwilio'r wefan;
- chwilio o fewn pellter penodedig o leoliad penodol;
- chwyddo ardal benodol ar y map â llaw;
- chwilio gan ddefnyddio'r enw ei hun.
Ceir dolenni i wybodaeth ddefnyddiol fel rhagolygon tywydd,
teithio neu ble i ddod o hyd i lety. Gallwch hefyd gysylltu â
thudalennau gwe yn ymwneud â gwybodaeth am ddiogelwch a chodau
ymddygiad am sut i fwynhau'r tir a'r dŵr yn ddiogel ac yn gyfrifol
mewn ffordd na fydd yn niweidio'r amgylchedd ac sy'n dangos parch
at ddefnyddwyr eraill.
ERTHYGLAU PERTHNASOL...
Safleoedd eraill...
Visit Wales
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer twristiaid ar wefan Croeso
Cymru.
Y Gorau or Ddau Fyd
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am wneud gweithgareddau antur,
gweithgareddau hamdden a chwaraeon awyr agored mewn modd cyfrifol
ar Y Gorau o’r Ddau Fyd.