Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Gyrru Traws Gwlad

Fis Mai 2004, fe drefnodd y Cyngor Cefn Gwlad a’r Comisiwn Coedwigaeth gynhadledd er mwyn ceisio rheoli a rhoi trefn ar yrru beiciau modur traws gwlad.

Y prif argymhellion a ddeilliodd o’r gynhadledd oedd hyrwyddo dull ar y cyd, ar draws Cymru gyfan, er mwyn:

  • Datblygu cyfleoedd i yrwyr beiciau modur traws gwlad wneud hynny fel gweithgaredd hamdden awyr agored cyfreithlon.

  • Lleihau a rheoli’r arfer anghyfreithlon o yrru traws gwlad.

Gan fod gyrru traws gwlad yn digwydd i’r fath raddau, mae nifer o sefydliadau ar draws Cymru yn cadw golwg fanwl ar bethau, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru.   Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn i’r Cyngor Cefn Gwlad gynorthwyo i weithredu argymhellion allweddol a geir yn adroddiad y Comisiwn Coedwigaeth a’r Cyngor Cefn Gwlad ar feicio modur traws gwlad yng Nghymru, gan weithio hefyd gyda phartneriaid ac awdurdodau lleol i gynnal prosiectau enghreifftiol ar dri o safleoedd newydd yng Nghymru sy’n addas i feicio modur traws gwlad.

Fe fydd y prosiectau’n helpu i ddatblygu arferion da y gellir eu rhannu efo sefydliadau allweddol eraill.   Hefyd, fe fydd yn datblygu ein polisi mewnol ni parthed gweithgareddau hamdden yn ymwneud â gyrru traws gwlad, gan arwain at leihau nifer y gweithgareddau anghyfreithlon a chan wella’r ffordd y gallwn reoli gyrru traws gwlad cyfreithlon.

Eisoes, mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cefnogi prosiectau enghreifftiol gyda phartneriaid yng Nghymru:

  • Menter Gorfodi ac Addysg Cwm Elan – Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu – Troseddau Gwledig

  • Prosiect Peilot Mynyddoedd Cambria

Yn ogystal, rydym yn siarad â’n partneriaid ynghylch bwrw ymlaen â phrosiectau eraill yn y dyfodol agos.   I gael mwy o fanylion am brosiectau unigol, cliciwch ar y cysylltau yn y rhestr uchod neu anfonwch e-bost at ymholiadau@ccw.gov.uk.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tîm Cefn Gwlad
C/O Ymholiadau
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen