Gweithgareddau awyr agored
Mae gweithgareddau yn yr awyr agored yn ffordd
ddelfrydol i glosio at natur a gwella eich iechyd a’ch lles. Yng
Nghymru y mae rhai o’r nodweddion naturiol gorau a hawsaf i’w
cyrraedd yn y DU ac mae pobl wedi bod yn eu mwynhau ers
blynyddoedd, gan eu defnyddio ar gyfer hamdden – ar y tir, dan y
môr ac yn yr awyr.
- Mae chwaraeon awyr yn
cynnwys paragleidio, croghedfan a hedfan barcud.
- Mae gweithgareddau ar dir yn cynnwys
dringo, cerdded, beicio mynydd, marchogaeth ceffylau a gwylio bywyd
gwyllt.
- Mae gweithgareddau dŵr yn cynnwys canŵio,
hwylio, deifio, syrffio gwynt a physgota.
Rydym yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng ei
gwneud hi’n haws i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a’r
angen i ddiogelu tirwedd a bywyd gwyllt ar gyfer y dyfodol.
Paratowch
Mae pob gweithgaredd yn unigryw – o’r math o
bobl sy’n cymryd rhan i’r cynefinoedd ble maen nhw’n digwydd.
Beth bynnag yw’r weithgaredd, dylech wastad
ystyried:
- Y peryg i chi eich hun ac eraill
- Y lles i gymuned ac iechyd
- Yr effaith ar yr amgylchedd
Trwy ddefnyddio’r amgylchedd mewn ffordd
gyfrifol, gallwn wella ansawdd ein bywydau a helpu i warchod ein
treftadaeth naturiol ar gyfer y dyfodol.