Y Llwybrau Cenedlaethol
Mae’r Llwybrau Cenedlaethol ymysg y ffyrdd
gorau o ddod i adnabod cefn gwlad Cymru – trwy ddod yn agos at bobl
leol, at olygfeydd amrywiol a thrawiadol ac at safleoedd a henebion
sy’n rhan o dreftadaeth y genedl.
Mae tri Llwybr Cenedlaethol hir yng Nghymru:
- Llwybr Glyndŵr yn y Canolbarth
- Llwybr Clawdd Offa ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr
- Llwybr Arfordir Sir Benfro
Pwy sy’n eu rheoli ?
Mae’r tri Llwybr Cenedlaethol yn cael eu datblygu, eu cynnal a’u
hariannu drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r
awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am y gwahanol ardaloedd hyd-ddyn
nhw. Mae Natural England hefyd yn rhoi arian tuag at y rhannau
hynny o Lwybr Clawdd Offa sydd yn Lloegr.
Mae gan bob Llwybr swyddog penodol sy’n cydlynu tîm o bobl i
ofalu am y Llwybrau gan eu cadw nhw, y clwydi, y camfeydd a’r
arwyddion mewn cyflwr da.
Sut i gyrraedd y Llwybrau
Mae nifer o fannau allweddol ar hyd y Llwybrau Cenedlaethol o
fewn cyrraedd hawdd at fysiau a threnau ac at brif wasanaethau mewn
trefi a phentrefi.
Sut i ddilyn y Llwybrau
Mae symbol mesen yn eich tywys. Mae pob un yn cynnig teithiau
hir a llawn her neu gyfres o deithiau byrrach a haws, o ychydig
oriau i ddiwrnod llawn.
Llyfrau tywys
Mae Aurum Press wedi cyhoeddi cyfres wych o lawlyfrau swyddogol
ar gyfer y Llwybrau Cenedlaethol, wedi eu hysgrifennu gan
arbenigwyr. Maen nhw’n llawn o wybodaeth gefndir ddefnyddiol,
cyngor ymarferol a mapiau llawn lliw. Maen nhw wedi eu rhannu’n
adrannau gan gynnig teithiau dydd, teithiau penwythnos neu wyliau
hirach.