Dyma ... Lwybr Glyndŵr
Cafodd Llwybr Glyndŵr ei ddatblygu’n bennaf ar
gyfer cerddwyr. Cafodd ei ddynodi’n Llwybr Cenedlaethol yn 2000 ac
fe gafodd ei lansio’n swyddogol yn Ebrill 2002.
Mae’r Llwybr, sy’n 135m (217km) o hyd yn mynd o Drefyclo ger y
ffin â Lloegr, i’r gorllewin i Fachynlleth ac yna’n ôl i’r
Trallwng. Mae wedi ei enwi i gofio’r milwr Cymreig o’r bedwaredd
ganrif ar ddeg, Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru.
Mae Llwybr Glyndŵr yn croesi peth o wlad mwyaf godidog Cymru,
gan gynnwys bryniau tawel Sir Faesyfed, glannau trawiadol Cronfa
Ddŵr Llyn Clywedog a mynydd Pumlumon a’i rug trwchus. Mae
golygfeydd gwych i’w cael o Gadair Idris, Cronfa Ddŵr Llyn Efyrnwy,
Mynyddoedd y Cambria a’r Golfa.
Cerdded y Llwybr
Mae’n bosib mwynhau Llwybr Glyndŵr yn un daith hir sy’n cymryd
tua 9 niwrnod i’w cherdded fel arfer. Neu mae’n bosib cerdded mewn
rhannau dros nifer o ddyddiau neu benwythnosau.
Dyw’r Llwybr ddim yn addas ar gyfer ceffylau na beiciau, er ei
bod yn gyfreithlon i ddefnyddio rhai rhannau byr ar gyfer
hynny.
Llety
Mae nifer o lefydd gwely a brecwast, tafarndai a gwestai bychain
yn agos at y Llwybr ond mae llety yn brin mewn mannau, felly mae’n
bwysig trefnu llety ymlaen llaw.
Safleoedd eraill...
Ffordd
Glyndŵr
Taith gerdded dros bellter hir yw’r Llwybr 132
m/212 km hwn y gellir ei mwynhau fel siwrnai ddi-dor, sy’n cymryd,
fel arfer, tua naw diwrnod, neu ar ffurf cyfres o deithiau
penwythnos neu ddiwrnod.