Llwybr Clawdd Offa
Mae Llwybr Clawdd Offa, sy’n 177 milltir (285
km) o hyd, yn mynd drwy wlad y gororau, ar y ffin rhwng Cymru a
Lloegr - o Brestatyn yn y Gogledd i Gas-gwent yn y De.
Yn aml, mae’r Llwybr yn dilyn Cladd Offa ei
hun – ffos a chlawdd rhyfeddol a godwyd gan ddynion yn yr wythfed
ganrif ar orchymyn y Brenin Offa. Mae’n debyg mai’r bwriad oedd
gwahanu Mersia, ei deyrnas Eingl-Sacsonaidd, oddi wrth deyrnasoedd
yng Nghymru. Hyd heddiw, mae’r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn
dilyn rhai rhannau o’r Clawdd.
Mae’r golygfeydd yn odidog – o’r dolydd ger afonydd Gwy a Hafren
hyd at fryniau tawel Swydd Amwythig a Phowys ac ucheldir grugog y
Mynydd Du a Bryniau Clwyd.
Mae’r Llwybr yn teithio drwy nifer o drefi
hanesyddol, neu’n agos atyn nhw, a’r rheiny’n cynnwys Cas-gwent,
Trefynwy, Y Gelli, Ceintun, Llanandras, Trefyclo, Bishop’s Castle,
Trefaldwyn, Y Trallwng, Croesoswallt, Llangollen, Yr Wyddgrug,
Dinbych a Phrestatyn.
Ar y ffordd, mae cestyll mawreddog, eglwysi
gwledig bychain, bryn gaerau dirgel o Oes yr Haearn a thafarndai
deniadol.
Cerdded y Llwybr
Mae sawl rhan o’r Llwybr yn addas ar gyfer
taith gerdded hamddenol am awr neu ddwy neu gall fod yn daith hir
gofiadwy sy’n cymryd ychydig wythnosau neu fwy.
Llety
Mae llawer o westai, tafarndai a mannau gwely
a brecwast ar y daith, yn enwedig yn rhai o’r trefi. Byddai’n well
trefnu llety ymlaen llaw yn y rhan fwya’ o lefydd, yn enwedig yn
ystod y tymor gwyliau.
Gwybodaeth
Yn Nhrefyclo, mae Canolfan Wybodaeth Clawdd
Offa, tua hanner ffordd ar hyd y Llwybr.
Safleoedd eraill...
Cymdeithas Clawdd
Offa
Mae’r Gymdeithas yn hyrwyddo ac yn diogelu Clawdd Offa, gan
ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau eraill i gerddwyr a
heicwyr.
Llwybr Clawdd
Offa
Cynllunio taith i Lwybr Clawdd Offa?
I gael rhagor o wybodaeth am ddod i weld yr ardal, gwelwch...