Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Llwybr Arfordir Penfro

Dyma Lwybr Cenedlaethol cyntaf Cymru. Mae’n cael ei reoli gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn  Ne-orllewin Cymru. Mae’n ymestyn o Landudoch ger Aberteifi i Gastell Llanrhath i’r dwyrain o Ddinbych y Pysgod. Mae’n 186 milltir( 299.5 km) o hyd.

Mae’n cynnig rhai o’r golygfeydd arfordirol mwya’ trawiadol yng nglwedydd Prydain gan gynnwys clogwyni serth, traethau bychain diarffordd a thraethau glân, agored.

Cerdded y Llwybr

Gallwch fwynhau’r Llwybr fel un daith ddi-dor sy’n cymryd rhwng 10 a 15 niwrnod neu mewn rhannau ar wahân dros nifer o ddyddiau neu benwythnosau.

Mae’r llwybr cyfan yn her gorfforol sylweddol sy’n cynnwys esgyn a disgyn 35,000 o droedfeddi ond mae’r teithiau byr yn cynnig amrywiaeth eang ar gyfer cerddwyr o bob math. Mae rhai rhannau wedi eu haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae eraill yn esgyn yn raddol a heb gamfeydd.

Dim ond rhannau byrion o’r Llwybr sydd ar agor ar gyfer ceffylau a seiclwyr.

Llety

Mae nifer o hosteli ieuenctid, mannau gwely a brecwast a gwestai ar hyd y llwybr. Bydd rhai yn fodlon trefnu i’ch cludo chi o’r llwybr a mynd â chi yn ôl yno’r diwrnod wedyn. Hefyd, mae nifer o fannau gwersylla ar hyd y ffordd – rhai ar gyfer pebyll mawr a charafannau ac eraill yn cynnig cyfleusterau sylfaenol ar gyfer cerddwyr. 

Gwybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Llwybr gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar 0845 345 7275.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tîm Cefn Gwlad
C/O Ymholiadau
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen