Cerdded yng Nghymru
Yng Nghymru, gallwch gerdded faint fynnwch
chi. O lwybrau arfordirol troellog at deithiau dros fryniau
geirwon a mynyddoedd, o dro hamddenol i deithiau mwy anodd a
heriol. Gallwch ddefnyddio ein map mynediad i ganfod amrywiaeth o
deithiau neu i gynllunio ymweliadau â Pharciau Gwledig a
Gwarchodfeydd Natur ...
Dod o hyd i dro
Mae’r teithiau’n amrywio o’r Llwybrau Cenedlaethol, fel Llwybr
Clawdd Offa, i deithiau byrrach yn y wlad fel y gylchdaith yn
Nyffryn Llancarfan ym Mro Morgannwg.
Mae gan Gymru bob math o safleoedd yn cynnig pob math o
weithgareddau cerdded, o lwybrau mewn coedlannau i ddysgu am ein
treftadaeth a gwylio adar. Mae digon o weithgareddau yn y wlad ar
gyfer y plant hefyd.
Pa mor dda yw mynediad?
Mae’r llwybrau sy’n cael sylw ar y map mynediad yn cynnwys
gwybodaeth am ba mor hawdd yw eu defnyddio. Mae’r wybodaeth wedi ei
hanelu at bawb, gan gynnwys cerddwyr gyda theuluoedd ac ymwelwyr
llai abl. Mae yno fanylion hefyd am sut i’w cyrraedd gyda
thrafnidiaeth gyhoeddus.
Beth yw eich barn?
Mae pob un o’r llwybrau sy’n cael eu dangos yn cael eu rheoli
gan awdurdodau lleol ac fe ddylent fod wedi eu cynnal i safon dda.
Rydym yn awyddus iawn i glywed eich stori, barn neu brofiad –
felly, rhowch wybod i ni os bu problemau neu os oeddech chi wedi
mwynhau eich tro.
Safleoedd eraill...
YHA
Gwybodaeth am lety mewn Hostelau Ieuenctid yng Nghymru.
Ramblers
Gallwch gael mwy o wybodaeth am gerdded a digwyddiadau cerdded ar
wefan Y Cerddwyr.
Tywydd gan y
BBC
Cofiwch wrando ar ragolygon y tywydd wrth gynllunio taith i gefn
gwlad. Gall y tywydd newid yn sydyn iawn, yn enwedig yn y
mynyddoedd.
The Camping and
Caravanning Club
Mae clwb gwersylla a charafanio Prydain Fawr yn darparu gwybodaeth
am safleoedd cofrestredig yng Nghymru.
pushchairwalks.co.uk
Gwefan newydd sy'n cynnig llwybrau cerdded hygyrch i bobl â phlant
ifanc a phobl heb fod mor abl.