Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Tir mynediad agored

Ym mis Mai 2005 daeth y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy i rym, gan nodi tir mynediad agored yng Nghymru a Lloegr yn glir. Mae un rhan o bump o dir Cymru’n cael ei ddangos fel ‘tir mynediad’ lle mae gan y cyhoedd hawl mynediad ar droed.

Open Access symbolLlun gan Michael Smith ⓗCCGC

O dan y Ddeddf, tir agored yw tir mynediad gan mwyaf; mynydd, rhostir, gweundir a thwyndir.

Mae tir mynediad hefyd yn cynnwys 'tir comin cofrestredig' (tir sydd wedi’i gofnodi ar y cofrestri swyddogol sy’n cael ei dal gan yr awdurdodau cofrestru tiroedd comin), ynghyd ag ardaloedd o ‘goedwigoedd cyhoeddus neilltuedig’ lle mae perchenogion fel y Comisiwn Coedwigaeth yn caniatáu mynediad am ddim.

I weithredu’r Ddeddf, bu’r Cyngor Cefn Gwlad yn gweithio gyda thirfeddianwyr, tenantiaid ac eraill sydd â buddiant yn y maes i gyflwyno mapiau cywir o’r holl dir mynediad agored.

Mae eglurder o’r fath wedi sicrhau fod pawb yn deall eu hawliau a’u rhwymedigaethau mewn perthynas â’r dirwedd – tirfeddianwyr a’r bobl sy’n ymweld â’r tir ei hun.

Yn amlwg mae gan y rhai sy’n ymweld â thir mynediad agored ddyletswydd i ddangos parch tuag at yr amgylchedd, pobl eraill sy’n defnyddio’r tir, a chymunedau lleol hwnt ac yma yn y dirwedd.

Edrychwch ar ficrowefan y Cod Cefn Gwlad i gael rhagor o fanylion.

Adolygu’r mapiau sy’n dangos mynediad agored

Pob deg mlynedd mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn gorfod adolygu mapiau mynediad agored i fynyddoedd, gwaun, rhos, twyndir, a thir comin cofrestredig yng Nghymru.

Bydd y broses yn cychwyn ar 16 Gorffennaf 2012 pan fydd y Cyngor yn cyflwyno mapiau draft o dir agored a thir comin cofrestredig. Yn seiliedig ar hyn gall tirfeddianwyr neu unrhyw un sydd â diddordeb gyflwyno sylwadau.

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos efo undebau amaethyddol, tirfeddianwyr unigol, ac ystod eang o grwpiau sy’n defnyddio tir i sicrhau fod ymwybyddiaeth o’r arolwg yn uchel, gan gychwyn yn awr a thrwy’r broses hyd nes y bydd y mapiau terfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2014.

Mae gwaharddiad ar dir mynediad o bryd i’w gilydd am resymau yn ymwneud a rheoli tir a diogelwch y cyhoedd.

Amserlen yr Adolygiad:

16 Gorffennaf 2012
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi mapiau drafft o fynediad agored ar gyfer Cymru gyfan. Bydd modd cyflwyno sylwadau o’r dyddiad yma ymlaen.

23 Tachwedd 2012
Y dyddiad olaf ar gyfer anfon sylwadau at y Cyngor.

7 Awst 2013
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi mapiau dros dro ar gyfer Cymru gyfan.

7 Tachwedd 2013
Y dyddiad olaf ar gyfer anfon ceisiadau apêl at yr Arolygiaeth Gynllunio.

9 Mai 2014
Diwedd y broses apelio.

24 Medi 2014
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi mapiau terfynol ar gyfer Cymru gyfan.


Os oes gennych ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â’r adolygiad ffoniwch 0845 1306229 neu anfonwch e-bost at mapiomynediadagored@ccw.gov.uk.

 

Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim Cefn Gwlad
(Mynediad Cefn Gwlad)
C/O Ymholiadau
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
08451 306229
Adborth y dudalen