Cwestiynau cyffredin a chanllawiau.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am adolygiad mapio 2012. Cafodd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ei phasio yn 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl mynediad ar droed at ddiben hamddena yn yr awyr agored. Daeth yr hawl a roddir dan y Ddeddf i rym ym mis Mai 2005 yng Nghymru.
Mapiau Drafft
Cafodd Map drafft 2012 ei gyhoeddi ar 16 Gorffennaf 2012 er mwyn ymgynghori yn ei gylch. Bydd gan aelodau’r cyhoedd a phobl sydd â budd cofrestredig yn y tir gyfle i roi “sylwadau” ar y mapiau hyn.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 23 Tachwedd 2012.