Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Mapiau Mynediad Agored Newydd

Logo

Croeso

Mapiau mynediad agored Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) (CGHT)

Gallwch ddod o hyd i’r map drafft newydd i Gymru ar gyfer 2012 yn ogystal ag archif sy’n cynnwys yr holl fap gwreiddiol i Gymru.

Dewiswch ardal ymgynghori ar y map neu o’r rhestr isod i gael mynediad i’r mapiau perthnasol.

Gwybodaeth ychwanegol

Cwestiynau cyffredin a chanllawiau.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am adolygiad mapio 2012. Cafodd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ei phasio yn 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl mynediad ar droed at ddiben hamddena yn yr awyr agored. Daeth yr hawl a roddir dan y Ddeddf i rym ym mis Mai 2005 yng Nghymru.

Pan ddaeth y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy i rym, cafodd y Cyngor Cefn Gwlad y dasg o ddiffinio tir mynediad agored, sef mynydd-dir, gweundir, rhostir a thwyndir a thir comin cofrestredig. Y cam cyntaf yn y broses oedd rhannu Cymru yn 14 o ardaloedd ymgynghori gwahanol, Yna, drwy waith ymgynghori, bu inni lunio mapiau drafft, dros dro a therfynol (diffiniol) ar gyfer pob ardal. Cwblhawyd y broses hon erbyn mis Mawrth 2005, a lansiwyd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ym mis Mai 2005. Y ‘mapiau diffiniol’ hyn yw’r mapiau sylfaenol a ddefnyddir ar gyfer y ffenestr mapiau mynediad i gefn gwlad. Cânt eu defnyddio hefyd gan yr Arolwg Ordnans ar gyfer eu mapiau Explorer 1:25000. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dir mynediad agored a mathau eraill o dir mynediad yn y bennod ‘Mwynhau Cefn Gwlad’.

Mae’r mapiau’n seiliedig ar fapiau’r Arolwg Ordnans 1:25000 ac 1:50000

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, 100019741 2011. Nid yw'r disgrifiad o hawliau mynediad yn awgrymu nac yn mynegi unrhyw sicrwydd ynglyn â'i gywirdeb neu'i gyflawnrwydd. Nid yw'r dull o gynrychioli unrhyw ffordd, unrhyw drac neu unrhyw lwybr ar y map yma yn dystiolaeth o hawl dramwy. I weld yr amodau a'r telerau llawn cliciwch yma