Mathau o gyfyngiadau tir
Mae cyfyngiadau yn cael eu defnyddio er mwyn
cadw cydbwysedd rhwng anghenion y cerddwyr ac anghenion ffermwyr.
Yn y pen draw, y bwriad yw diogelu’r cyhoedd fel bod pawb yn cael
mwynhau cefn gwlad. Mae dau brif fath o gyfyngiad ...
Cyfyngiadau dewisol
Mae’r math yma o gyfyngiad yn ddefnyddiol i dirfeddianwyr a
thenantiaid sydd am gyfyngu neu rwystro mynediad. Yn ystod tymor
wyna, er enghraifft.
Mae modd eu gosod a’u tynnu ymaith ar fyr rybudd, felly mae’n
bwysig chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan yma – a hefyd
chwilio’n ofalus am arwyddion ar y tir!
Mae cyfyngiad o ychydig oriau yn cael ei gyfri’n ddiwrnod llawn
– a dim ond ar 28 diwrnod mewn unrhyw un flwyddyn calendr y gellir
defnyddio cyfyngiadau o’r fath.
Does dim modd gosod cyfyngiadau dewisol:
- Ar Wyliau Banc, Dydd Nadolig na Gwener y Groglith
- Ar fwy na phedwar o ddyddiau penwythnos
- Ar unrhyw Sadwrn rhwng Mehefin 1 a Awst 11
- Ar unrhyw Sul rhwng Mehefin 1 a Medi 30
Cyfyngiadau drwy gyfarwyddyd (gyda chais)
Mae modd i unrhyw un sydd â diddordeb cyfreithiol yn y tir wneud
cais i’r “Awdurdod Perthnasol” (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod
Parc Cenedlaethol Eryri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a'r
Comisiwn Coedwigaeth) am gyfyngiad drwy gyfarwyddyd.
Gellir gwneud cais am un o’r rhain am un neu fwy o’r rhesymau
hyn:
- rhesymau rheoli tir
- er mwyn osgoi’r peryg o dân
- er mwyn osgoi peryg i’r cyhoedd
Os yw’r cais yn cael ei wrthod, mae gan yr ymgeisydd hawl i
apelio. Dyw statws mynediad y tir ddim yn newid yn ystod apêl.
Cyfyngiadau drwy gyfarwyddyd (heb gais)
Dan amgylchiadau arbennig, mae modd hefyd i’r “awdurdod
perthnasol” osod cyfyngiad heb gais gan berson gyda diddordeb
cyfreithiol:
- er mwyn osgoi’r peryg o dân
- er mwyn osgoi peryg i’r cyhoedd
- am resymau cadwraeth natur neu dreftadaeth
ddiwylliannol
Esbonio Cyfarwyddiadau a Phenderfyniadau
Cyfarwyddyd
Dyma ddogfen gyfreithiol a gyhoeddir gan yr Awdurdod Perthnasol,
pan gytunir ar gyfyngiadau neu waharddiadau’n ymwneud â thir
mynediad agored.
Cyfarwyddyd drafft
Caiff y ddogfen hon ei hanfon at ein partneriaid amrywiol ac at
y bobl hynny a chanddynt fuddiant yn y tir, er mwyn ymgynghori efo
nhw ynghylch a ddylid cyhoeddi cyfarwyddyd ai peidio. Hefyd, mae
gan y cyhoedd hawl i ddweud eu dweud.
Penderfyniadau
Pan fydd ‘awdurdod perthnasol’ yn penderfynu peidio â rhoi
cyfarwyddyd am ryw reswm neu’i gilydd, rhaid iddo gyfiawnhau’r
rheswm hwnnw mewn dogfen ffurfiol. Caiff y ddogfen ei chyflwyno ar
ffurf adroddiad.
Ynglŷn â Chyfarwyddiadau Drafft
Cyn cyhoeddi cyfarwyddyd, o chwe mis i hyd at bum mlynedd, rhaid
i’r ‘awdurdod perthnasol’ lunio fersiwn ddrafft. Caiff hon ei
hanfon at y canlynol i ymgynghori yn ei chylch:
- Fforymau Mynediad Lleol
- Undebau’r Ffermwyr
- Sefydliadau eraill sy’n bartneriaid i ni
Hefyd, dylai’r fersiwn ddrafft hon gael ei chyhoeddi ar wefan
pan fo modd, er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd gyflwyno sylwadau
arni.
Caiff ymgyngoreion hyd at chwe wythnos i ymateb yn ysgrifenedig.
Gallwch ddod o hyd i’r Cyfarwyddiadau Drafft trwy ddefnyddio
cyfleuster chwilio’r dudalen Cyfarwyddiadau a Phenderfyniadau.
I gyflwyno sylwadau ar Gyfarwyddyd Drafft, cysylltwch â’r
Swyddog Awdurdodi a nodir ar ddiwedd y ddogfen.
Os cewch chi broblemau wrth ddefnyddio cyfleuster chwilio’r
dudalen Cyfarwyddiadau a Phenderfyniadau, cysylltwch â’r Tîm Cefn
Gwlad trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ochr dde’r dudalen.