Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Y peryg o dân

Gall tân yng nghefn gwlad arwain at sefyllfaoedd peryglus ac anrhagweladwy. Yn ystod tywydd eithriadol, mae’n hollbwysig i bawb fod yn wyliadwrus ac yn effro i beryglon posibl. O’r herwydd, mae mynegai difrifoldeb tân wedi’i greu er mwyn ceisio rhagweld pa mor debygol yw tanau o ddigwydd…

Mae’r indecs difrifoldeb tân yn cynnwys graddfa syml i fesur y peryg o wahanol amgylchiadau.

Mae gan yr indecs bump lefel risg tân, o un [isel iawn ] i bump[eithriadol].

Byddai sgôr o bump yn golygu fod y tywydd yn eithriadol o sych neu fod cyflwr y tir wedi newid mewn ffordd ddramatig.

A wnewch chi gofio y gall tanau gwyllt ddigwydd unrhyw adeg, ni waeth be fo Mynegai Difrifoldeb Tân Met Office. Mae’r wybodaeth yn amodol ar Amodau a Thelerau Met Office.

Sut mae’n cael ei ddefnyddio?

Pan fo peryg o dân, mae’r Awrdurdod Perthnasol (Cyngor Cefn Gwald Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a'r Comisiwn Coedwigaeth) yn gallu cyfyngu ar fynediad cyhoeddus i’r tir dan sylw.

Er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid i’r indecs gyrraedd rhif pump ac mae angen cais swyddogol gan dirfeddiannwr, tenant neu reolwr tir arall.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r indecs yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth am gyflymder y gwynt, mesuriadau tymheredd, amser y flwyddyn a glaw er mwyn cynhyrchu asesiad tân cyflawn.

Daw’r wybodaeth o’r gwaith cadw-llygad sy’n digwydd ym mhob rhan o’r wlad ac yn syth o’r Swyddfa Dywydd. Yna, bob bore byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ar y wefan, gyda lefel risg y diwrnod a’r lefelau sy’n cael eu darogan ar gyfer y pum niwrnod wedyn.  Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghyhoeddiad y Swyddfa Dywydd 'Met Office Severity Index'(gwelwch y linc isod).

Lle mae’r indecs?

Mae’r map mynediad rhyngweithiol yn dangos graddfa’r mynegai ar gyfer y dydd a’r rhagolygon tywydd am y pum niwrnod nesaf.  Nodwch na fydd y rhagolygon ar gyfer y pum diwrnod nesaf mor fanwl gywir â rhagolygon y diwrnod dan sylw.

Edrychwch ar y Mynegai trwy glicio ar ‘Agor’ ar ochr chwith ffenestr y map. Yna, cliciwch ar ‘Allwedd y Map’.

Rholiwch i lawr y rhestr hyd nes y cyrhaeddwch chi ‘Mynegai Difrifoldeb Tân’. Cliciwch yn y blwch i’r chwith o’r ‘Mynegai Difrifoldeb Tân’, ac yna ar ‘Diweddaru Manylion y Map’.

Fe fydd lefel presennol y diwrnod dan sylw yn cael ei arddangos mewn lliw ar y map. Symudwch y map efo’r offer ‘Symud y map’ i weld pa lefel sy’n berthnasol i’ch ardal chi.

I gael mwy o help, edrychwch ar ‘Sut i ddefnyddio’r map’ (gweler y cyswllt isod).

Yn yr haf, neu os bydd hi’n sych iawn, mae’n werth edrych ar y map bob diwrnod er mwyn gweld beth yw’r amodau lleol.

 

Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim Cefn Gwlad
(Mynediad Cefn Gwlad)
C/O Ymholiadau
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
08451 306229
Adborth y dudalen