Beth alla’ i ei weld ar y map?
Mae’r map Crwydro Cymru Arlein yn lle da i
ddechrau os ydych am fynd i gerdded yng Nghymru.
Mae gennym deithiau cerdded sy’n addas i bawb, pa un ai a ydych
yn ymweld â Gogledd, De neu Ganolbarth Cymru, a gallwch fod yn siŵr
os byddwch yn dewis un o’n teithiau, nid yn unig y bydd modd i chi
weld a yw’n addas ar eich cyfer chi a'ch teulu, ond hefyd y byddwch
yn gwybod y dylai'r llwybr fod wedi'i gynnal a'i gadw i safon
uchel. Mae gennym nifer o bartneriaid yng nghefn gwlad sy'n
darparu’r llwybrau a'r mannau gorau i ymweld â hwynt ar ein cyfer
er mwyn eich helpu i fwynhau eich ymweliad â chefn gwlad.
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gerdded ein llwybrau,
yna rhowch wybod i ni a byddwn ninnau’n pasio eich sylwadau ymlaen
at yr unigolyn priodol.
Nid yw pawb yn dymuno dilyn llwybr sydd wedi’i hyrwyddo, felly,
os fyddai'n well gennych gerdded llwybr Hawl Tramwy Cyhoeddus neu
fanteisio ar ryddid Tir Mynediad, gallwch ‘chwyddo’ ein map lliw i
weld i ble y gallwch fynd. I’r rhai ohonoch sydd â mwy o ddiddordeb
mewn cerdded tir Mynediad Agored, a elwir weithiau’n ‘hawl i
grwydro’ ac sydd wedi’i liwio’n felyn yn ein mapiau, cofiwch
ddarllen yr wybodaeth rydym yn ei darparu (wedi’i lliwio’n goch,
pinc neu â chroeslinellau coch) am unrhyw gyfyngiadau neu
waharddiadau a allai fod mewn grym adeg eich ymweliad. Hefyd,
cofiwch ufuddhau i unrhyw arwyddion y dewch ar eu traws.
Ar rai adegau penodol ar y flwyddyn, mae arnoch angen bod yn fwy
ymwybodol fod perygl posibl o dân yng nghefn gwlad. Er mwyn eich
helpu â hyn, mae gennym Ddangosydd Perygl Tân sy'n dangos lefelau o
1 (risg isel iawn) i 5 (risg eithriadol). Byddai sgôr o bump yn
cynrychioli tywydd eithriadol o sych neu newidiadau dramatig yng
nghyflwr y tir.
Os ydych yn cael anhawster defnyddio ein mapiau, ewch i'r
dudalen ‘Sut i ddefnyddio’r map' i gael cymorth cwbl
ryngweithiol.
Rydym yn defnyddio mapiau Explorer yr Arolwg Ordnans fel ein
sylfaen mapiau. Gallwch hefyd brynu copïau o’r mapiau hyn, sy’n
dangos tir mynediad y ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, gan yr
Arolwg Ordnans.
ERTHYGLAU PERTHNASOL...
GWELER HEFYD...
Arolwg
Ordnans
Prynu mapiau Explorer 1:25000 gan yr Arolwg
Ordnans ar-lein