Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mwynhau cefn gwlad

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cris-croesi’r wlad am bellter o 33,00km. Dyma lwybrau a ffyrdd sy’n rhoi cyfle i ni fwynhau cefn gwlad. Dyma ein traffyrdd gwyrdd. Fel gyda gwahanol rannau o ffyrdd a thraffyrdd, mae’r hyn y gallwch ei wneud yn dibynnu ar ba draffordd yr ydych yn teithio ...

Mae gan bawb hawl i fwynhau’r wlad o’u cwmpas. Serch hynny, nid pawb sy’n gwybod am y lles a ddaw o gefn gwlad – yn gorfforol, cymdeithasol a meddyliol.

Mae’r CCG wedi ymrwymo i ddelio gyda’r diffyg gwybodaeth ac i ledaenu’r neges. Rydym am sicrhau fod y rhwydwaith o draffyrdd Hawliau Tramwy:

  • mewn cyflwr gwych ac yn hawdd i’w defnyddio
  • yn cael eu disgrifio’n gywir, fel bod pobl yn gwybod eu bod yno
  • yn derbyn cyhoeddusrwydd digono, cyfleus.

Gadewch y ddinas. Rhowch y car yn y garej. Beth am gerdded y plant i’r ysgol?

Am ba bynnag reswm y byddwch yn defnyddio llefydd yn yr awyr iach, bydd y ffordd y mae’r rhwydwaith llwybrau yn cael ei reoli a’u datblygu yn effeithio arnoch chi. 

Gwahanol fathau

Mae pedwar math o Hawliau Tramwy yng Nghymru. Mae modd eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar eu natur.

Gall pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn ddefnyddio’r llwybrau os ydynt yn addas.

  • Mae 79% o Hawliau Tramwy Cymru yn llwybrau sydd ar gael i gerddwyr.
  • Mae 15% yn llwybrau ceffyl sydd ar gael i gerddwyr, seiclwyr a rhai ar gefn ceffyl.
  • Mae modd i’r grwpiau sy’n defnyddio llwybrau ceffyl ddefnyddio Culffyrdd Cyfyngedig hefyd. Mae rhain ar gael hefyd ar gyfer cerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau a cherbydau eraill sydd heb fodur.

Mae Culffyrdd (Byways) ar gael i bob trafnidiaeth, gan gynnwys cerbydau fel beiciau modur.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tîm Cefn Gwlad
C/O Ymholiadau
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen