Ymweld â’r arfordir
Yng Nghymru y mae rhai o’r traethau gorau a
glanaf yn y DU ac fe ddylai pawb gael cyfle i’w mwynhau.
Cynllun Gwella Mynediad i Arfordir Cymru
Rhaglen chwe blynedd (2007-2013) i wella a hyrwyddo mynediad i’r
cyhoedd i arfordir Cymru ar droed, ar gefn ceffylau ac ar feiciau
yw Rhaglen Gwella Mynediad i Arfordir Cymru.

Caiff y rhaglen ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac
maen nhw wedi sicrhau bod arian ar gael i’r Cyngor Cefn Gwlad fel y
gellir cynnig grantiau i holl awdurdodau lleol arfordirol Cymru –
mae pob un o’r rhain yn datblygu ac yn cyflawni rhaglenni lleol ar
gyfer mynediad i’r arfordir. Rhaid i bob un o’r awdurdodau hyn
sefydlu Partneriaeth Leol sy’n cynnwys budd-ddeiliaid fel y gallant
gyfrannu at ddatblygiad y rhaglen a’r cynlluniau cyflawni.
Yn 2007/08, buddsoddwyd £1.5 miliwn yn y Rhaglen, a neilltuwyd
£2 miliwn yn 2007/08.
Pwrpas y Rhaglen
- Annog a galluogi’r cyhoedd – sef trigolion lleol ac ymwelwyr
fel ei gilydd – i fwynhau arfordir Cymru.
- Annog a galluogi mwy o bobl i fwynhau gweithgarwch corfforol ar
hyd yr arfordir, gan ein cynorthwyo i ddod yn genedl iachach a mwy
heini.
- Sicrhau bod mynediad i’r arfordir yn gynnyrch blaenllaw ar
gyfer twristiaid, gan ddod â buddion economaidd i gymunedau
arfordirol.
Mae’r Rhaglen yn cynnwys dwy elfen ddaearyddol – Llwybr Arfordir
Cymru a Pharth Arfordirol Cymru.
Llwybr di-dor o amgylch y wlad, a fydd ar gael ar ei hyd i
gerddwyr, ac ym mhob man sy’n ymarferol i seiclwyr a marchogion, yw
Llwybr Arfordir Cymru. Fe fydd mor agos i’r arfordir â phosibl, o
fewn terfynau’r gyfraith, a bydd yn ystyried anghenion yn ymwneud
ag iechyd a diogelwch, rheoli tir a chadwraeth. Y gobaith yw y bydd
y Llwybr yn cael ei agor yn swyddogol yn 2012.
Mae Parth Arfordirol Cymru yn ymestyn 2 gilomedr i’r tir o
gyfeiriad yr arfordir. Y bwriad yw cysylltu’r parth hwn efo’r
arfordir a Llwybr Arfordir Cymru trwy ddatblygu cyfleoedd i
gerdded, seiclo a marchogaeth er mwyn creu:
- cysylltiadau rhwng yr arfordir ac aneddiadau, gwasanaethau a
mannau diddorol eraill
- llwybrau cylchol ar gyfer cerddwyr ac eraill
- llwybrau amgen ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru
Gweler Hefyd...
CAP Fframwaith i Awdurdod Lleol - Rhagfyr 2006
Arweiniad i Fframwaith Mynediad i’r Arfordir
Gwefannau Eraill...
Llywodreath Cynulliad
Cymru
Gwefan Llywodreath Cynulliad Cymru.
Natural England
Mae Natural England (y Countryside Agency ers talwm) yn cynnig
cyngor i Defra ynghylch gwella mynediad i arfordir Lloegr erbyn
dechrau 2007.
DEFRA
Mae gwefan adran yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig yn cynnwys
toreth o wybodaeth ddefnyddiol
Adnoddau
Corfforaethol
-
-
Mynediad Statudol i’r Arfordir Cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru Mai 2008 Mewn ymateb i gais oddi wrth Llywodraeth y Cynulliad ym mis Medi 2007, mae’r ddogfen yn cofnodi’r cyngor a roddir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu deddfwriaeth newydd a fydd yn llunio terfyn mynediad i’r arfordir yng Nghymru.
-
Download Coastal-access-margin_CCW-advice-FINAL_2008-MAY-v2 Cymraig.pdfansawdd gwael (1 MB)
Amser lawrlwytho:
- 56 Kb
- 3 min,
- 512 Kb
- < 1 min,
- 1 Mb
- < 1 min,
- 4 Mb
- < 1 min,
-
-
Cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru Ehangu Mynediad i’r Arfordir 2006 Rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gyfarwyddyd i CCGC i “ymchwilio i waith ar ehangu mynediad cyhoeddus i’r arfordir gan gyflwyno dewisiadau posibl ar gyfer gweithredu i Lywodraeth y Cynulliad erbyn Chwefror 2006.” Mae hyn yn deillio o’r ymrwymiad yn ‘Cymru: Gwlad Well’ i ehangu mynediad i ardaloedd yr arfordir ar ôl sefydlu’r mynediad cyntaf i dir agored ac erbyn 2008/09.
-
Download Coast-CCW-advice-Final-31March06-cy.pdfansawdd gwael (771 KB)
Amser lawrlwytho:
- 56 Kb
- 2 min,
- 512 Kb
- < 1 min,
- 1 Mb
- < 1 min,
- 4 Mb
- < 1 min,