Newid yn yr hinsawdd
Mae’r tywydd yn newid o awr i awr, o ddydd i
ddydd. Hinsawdd yw cyfartaledd y tywydd o fewn ardal benodol tros
sawl degawd. Ers yr 1970au, mae’r hinsawdd wedi newid yn
sylweddol.
Sut y mae’r hinsawdd yn newid
Dyma rai o’r rhagolygon a baratowyd ar gyfer
Rhaglen Effeithiau Hinsawdd y DU yn 2002:
- Mae bellach yn boethach yn y DU.
- Bydd rhagor o ddyddiau poeth iawn yn ystod yr haf a’r
hydref.
- Bydd llai o ddyddiau oer iawn.
- Bydd gaeafau’n wlypach ac mae disgwyl i hafau fod yn
sychach.
- Bydd rhagor o wahaniaeth rhwng y tymhorau.
- Bydd llai o eira a’r tymor tyfu’n ymestyn.
- Yn y môr, bydd tymheredd wyneb y dŵr ger y glannau’n cynhesu a
bydd lefelau’r môr yn codi.