Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Newid amgylcheddol

Ymateb i newid yn yr hinsawdd

 Rhaid i ni weithredu i ymladd newid yn yr hinsawdd - ac mae’n rhaid gwneud hynny ar unwaith.  Ond beth ddylem ni ei wneud i ddelio gyda phroblem mor gymhleth?

Mae dwy ffordd, gyflenwol, o ddelio gyda newid yn yr hinsawdd.

  • Gallwn geisio cael llai o’r pethau sy’n achosi’r newid – lliniaru 
  • Gallwn addasu i effeithiau’r newidiadau

Taclo’r achosion

Gallwn geisio sefydlogi a gostwng y crynodiad o garbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill sy’n achosi newidiadau i’r atmosffer.  Lleihau gollyngiadau yw un o’r ffyrdd pwysicaf o leihau maint ac effaith newid yn yr hinsawdd.  Gelwir hyn yn lliniaru.

Mae cytundebau rhyngwladol megis Protocol Kyoto’n talu sylw i hyn.  I’r rhain fod yn llwyddiannus, fodd bynnag, rhaid gwireddu’r cytundebau hyn ar lefel y gymuned.  Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn arwain drwy esiampl drwy ostwng faint o ynni mae’n ei ddefnyddio ac yn annog eraill i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy. 

 Gall plannu coed sy’n cloi’r carbon deuocsid a diogelu ffynonellau pwysig o garbon fel gorgorsydd fod o help hefyd, ond dim ond ychydig.

Addasu i’r effeithiau

Mae hyd yn oed y senarios mwyaf optimistig yn rhagweld o leiaf 40 mlynedd o newid arwyddocaol yn yr hinsawdd – hyd yn oed os ydym yn llwyddo i reoli gollyngiadau byd-eang.     Mewn gwirionedd, mae gollyngiadau byd eang o garbon deuocsid yn cynyddu’n gyflymach nag erioed o’r blaen.

Mae’n anorfod y ceir newidiadau amgylcheddol arwyddocaol.   Felly bydd gofyn i ni addasu ein polisïau ar gyfer cadwraeth natur, diogelu tirwedd a hamdden.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim newid hinsawdd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen