Safle Rhwydwaith Newid Amgylcheddol yr Wyddfa
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Llywodraeth
Cynulliad Cymru’n noddi safle Rhwydwaith Newid Amgylcheddol y DU ar
yr Wyddfa ar y cyd. Rhwydwaith Newid Amgylcheddol y DU yw rhaglen
integredig, hirdymor y DU er mwyn monitro’r amgylchedd ac ymchwilio
iddo. Mae’r Rhwydwaith yn casglu gwybodaeth am y pwysau ar
systemau ffisegol, cemegol a biolegol, a’r ymateb i newid
amgylcheddol yn y systemau hyn.

Mae’r Rhwydwaith Newid Amgylcheddol ar yr Wyddfa 500 metr
uwchben lefel y môr ac ymwelir ag ef drwy’r flwyddyn. Cesglir
llawer iawn o ddata bob wythnos yn ychwanegol at ddata a gesglir yn
barhaus o’r Orsaf Dywydd Awtomatig.

Mae’r wybodaeth gan yr Orsaf Dywydd Awtomatig yn cael ei rhoi ar
wefan yn awtomatig ac mae llawer o bobl sy’n mynd i fyny’r Wyddfa’n
edrych arni. Mae wedi’i chysylltu hefyd â gorsafoedd tywydd eraill
ar yr Wyddfa. Cliciwch ar y ddolen gyswllt ar waelod y dudalen er
mwyn gweld ein safle tywydd.

Cesglir ystod eang o newidynnau, o chwilod ac ystlumod i loynnod
byw (un o’r gloynnod byw sy’n gyffredin ar yr Wyddfa yw’r glöyn byw
gwyn gwythiennau gwyrddion a welir yma). Mae’r holl ddata am
loynnod byw wedi’u cysylltu â Chynllun Monitro Gloynnod Byw y DU.
Gweler y ddolen gyswllt i dudalen y Cynllun ar y we am fwy o
wybodaeth.

Yn 2006 dechreuasom safle Rhwydwaith Newid Amgylcheddol dŵr
croyw yn Nant Teyrn ar yr Wyddfa i gydredeg â’n safle tir. Byddwn
yn edrych ar nifer o wahanol bethau gan gynnwys diatomau a
macroffytau. Bydd hyn yn golygu bod gan y Rhwydwaith Newid
Amgylcheddol dri safle dŵr croyw yng Nghymru.

Mae casglu gwybodaeth ffenolegol yn rhan bwysig o’r gwaith ar
safle’r Wyddfa. Cesglir gwybodaeth ynglŷn â pha bryd y mae gwahanol
bethau’n digwydd mewn gwahanol rywogaethau, o ddeoriad penbyliaid i
flaguryn cyntaf y tormaen porffor. Anfonir yr holl wybodaeth i
Rwydwaith Ffenoleg y DU lle caiff ei chyfuno â miloedd o setiau
eraill o ddata i roi gwybodaeth inni am newidiadau yn ein
hamgylchedd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Cliciwch ar y
ddolen gyswllt ar waelod y dudalen hon er mwyn ymweld â gwefan y
Rhwydwaith.

Mae gennym hefyd safle amonia yn Nyffryn Mymbyr sy’n rhan o
Rwydwaith Monitro Amonia cenedlaethol y DU. Dilynwch y ddolen
gyswllt ar waelod y dudalen hon er mwyn ymweld â’r wefan a gweld
canlyniadau monitro amonia ar y safle hwn er 1997.
Mae tîm y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol ym Marchlyn Mawr hefyd
yn monitro osôn. Mae’r canlyniadau wedi’u cysylltu â Fforwm Ansawdd
Aer Cymru. Cliciwch ar y ddolen gyswllt ar waelod y dudalen hon er
mwyn cael mwy o wybodaeth.
Yn ogystal â chasglu samplau glaw ar y safle i’r Rhwydwaith
Newid Amgylcheddol rydym hefyd yn eu casglu fel rhan o’r rhwydwaith
Monitro Dyddodiad Dŵr Asid.
Mae’r holl ddata a gesglir gennym yn cael eu hanfon i Uned
Gydlynu Ganolog y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol yng Nghanolfan
Ecoleg a Hydroleg Lancaster ac yn cael eu cadw yno. Gallwch weld
crynodeb o’r holl ddata a gasglwyd gan bob un o’r safleoedd drwy
ddilyn y ddolen gyswllt ar waelod y dudalen. Bydd y wefan hon hefyd
yn egluro popeth y mae angen ichi ei wybod am y Rhwydwaith Newid
Amgylcheddol.