Help gyda’r safle
Pan fyddwch yn defnyddio gwefan y Cyngor, mae
hi’n bwysig ichi allu llywio’n gyfforddus drwy’r penodau a’r
tudalennau amrywiol – rydym am ichi fwynhau’r profiad o bori drwy’r
wefan. Mae yna nifer o nodweddion o fewn y safle sydd
â’r bwriad o’ch helpu gyda’ch taith drwy’r Cyngor...
Gellir llywio drwy’r wefan yn y ffyrdd a ganlyn:
- Y ddewislen ar gyfer llywio drwy’r penodau. Mae hon
i’w chael ar frig y dudalen. Mae modd defnyddio’r
ddewislen i gysylltu â phrif adrannau’r safle, er enghraifft y
penodau ‘Newid amgylcheddol’ neu ‘Cyhoeddiadau’.
- Prif ddewislenni cynnwys y penodau. Mae’r rhain ar
ochr chwith y sgrin, ac maen nhw’n caniatáu i ddefnyddwyr archwilio
pynciau penodol o fewn y bennod gyfredol.
- Defnyddio ein cyfeiriadau gwe ‘syml’, e.e.
www.ccw.gov.uk/cynefinoeddarhywogaethau
- Y llwybr llywio. Mae’r llwybr yma’n dangos lleoliad
y dudalen o fewn strwythur y wefan. Gallwch
ddefnyddio’r cysylltau yn y llwybr yma i ddychwelyd at brif dudalen
y bennod a’r dudalen gartref – gan fynd yn ôl i’r dechrau’n
effeithiol.
Er enghraifft, os yw’r llwybr yn dangos:
Tudalen Gartref > Y dirwedd a bywyd gwyllt > Cynefinoedd a
rhywogaethau > Daearol > Cynefinoedd
Fe allwch fynd yn ôl i’r dudalen gartref, neu i’r bennod
cynefinoedd a rhywogaethau, neu hyd yn oed i’r adran ddaearol – a
hynny’n syth.
- Map o’r safle. Yma, rhestrir pob pennod a thudalen
o fewn y wefan, gan ddangos sut y mae’r tudalennau’n perthyn i’w
gilydd. Gall cael cipolwg ar strwythur y safle eich
helpu i gael darlun gwell ohono, gan eich galluogi i ddod o hyd i
bynciau perthnasol.
- Y safle, o A – Y. Mynegai cyflawn o’r adrannau a
geir o fewn y safle. Yn syml, chwiliwch am dan ‘p’ am
‘pysgod’ a dan ‘m’ am ‘mapiau’ . Mae hi mor hawdd â
hynny.
Gwallau ar dudalennau
Rydym yn gwneud ein gorau i roi gwybodaeth mor ddiddorol a
chynhwysfawr â phosibl ichi. Ond pe baech chi’n gweld
gwall ar unrhyw un o’n tudalennau, a wnewch chi gysylltu efo ni fel
y gallwn ddatrys y broblem. Anfonwch e-bost at
golygyddywe@ccw.gov.uk.