Dewisiadau Defnyddio
Rydym yn credu ein bod wedi creu gwefan sy’n
cyrraedd safonau rhagorol o ran pa mor hawdd yw hi i’w
defnyddio - ac mae amrywiaeth o nodweddion defnyddio hygyrch
ar waith. Ond rydym yn awyddus i barhau i ddilyn
safonau defnyddio hygyrch wrth i’r cyfrwng ei hun dyfu a
datblygu.
Mae’r gosodiadau canlynol wedi eu hychwanegu at y safle er mwyn
ei wneud yn fwy defnyddiol a hygyrch – fodd bynnag, dim ond ar
gyfer yr ymweliad yma y bydd y gosodiadau’n cael eu
harbed. Cliciwch ar y botwm cofio gosodiadau i arbed y
gosodiadau ar gyfer y dyfodol.
Mae cynllun ein gwefan yn cynnwys nifer o opsiynau defnyddio
hygyrch, gan gynnwys:
- Cyngor ar ddewisiadau defnyddio’r porwr
- Cynllun hawdd llywio drwyddo, efo tudalennau â strwythur
arbennig er mwyn eu gwneud yn hawdd eu darllen.
- Dulliau rheoli ‘elastig’ sy’n ymestyn.
- Dewisiadau ar gyfer newid y lliwiau.
- Fersiwn ‘testun yn unig’.
- Disgrifiadau testun amgen (testunau ALT), fel sy’n ofynnol yn
ôl canllawiau defnyddio a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae’r holl fotymau llywio graffigol efo tagiau “ALT”.
- Er mwyn cynorthwyo’r rheini sy’n defnyddio fersiynau ‘testun yn
unig’ a fersiynau clywedol, rydym wedi cynnwys nodwedd gudd sy’n
galluogi’r defnyddiwr i hepgor prif dudalen y botymau llywio (yn
hytrach na gorfod mynd drwyddyn nhw fesul un ar ddechrau pob
tudalen). Felly, fe all y defnyddiwr neidio’n syth i
lawr prif dudalen y cynnwys.
- Hefyd, rydym yn defnyddio ‘Readspeaker’ sy’n eich galluogi i
wrando ar bob tudalen o fewn y wefan ac ar y cysylltau niferus sydd
ar gael.
- Rydym wedi osgoi defnyddio fframiau o fewn ein prif safle a’r
micro-safleoedd.
Mae’r holl ffurflenni ar-lein a geir ar y wefan wedi eu llunio
trwy ddefnyddio’r un safonau caeth.
Fodd bynnag, fe fydd y rheini sydd â phorwyr hŷn, sydd â
chysylltiad araf â’r Rhyngrwyd, neu sy’n gweithio ar lwyfannau
gwahanol, yn gweld bod y wefan yn llwytho’n gyflym ac yn arddangos
popeth fel y dylai.
Newid maint y testun
Maint rhagosodedig y testun o fewn gwefan y Cyngor yw oddeutu 11
(yn seiliedig ar destun maint canolig porydd rhyngrwyd).
Dewiswch o blith y canlynol:
- Testun mawr iawn
- Testun mawr
- Testun safonol
Mae modd newid maint y testun trwy newid y gosodiadau yn eich
porwr:
Internet Explorer: View > Text Size > dewis maint.
Mozilla Firefox Cymraeg: Golwg > Maint Testun > cynyddu
neu leihau.
Mozilla Firefox: View > Text Size > increase or
decrease.
Opera: View > Zoom > dewis.
Dewis Lliwiau
Dewiswch un o’r opsiynau isod i newid y lliwiau neu i ddychwelyd
at y cynllun lliwiau rhagosodedig.
Cynllun rhagosodedig
Du ar wyn
Du ar felyn
Du ar binc golau
Gwrando
Mae gan y wefan y system ganlynol i droi testun yn eiriau:
- Readspeaker – fe fydd ffrâm newydd i’w chael ar frig tudalen y
Cyngor lle ceir cyfarwyddiadau ar sut i wrando ar y testun.
Rydym yn croesawu eich adborth at y dewisiadau yma i droi testun
yn eiriau.
Gwasanaethau
Os hoffech gael dogfennau neu wybodaeth yn ymwneud â gwaith,
polisïau neu weithdrefnau’r Cyngor ar dâp neu ar ffurf braille,
cysylltwch â ni, ac fe wnawn ni bob ymdrech i’w darparu ar eich
cyfer.
Rydym wedi ymrwymo i gynnig nodweddion defnyddio hygyrch o’r
radd flaenaf ichi ar http://www.ccw.gov.uk. Os
oes gennych sylwadau neu bryderon yn ymwneud â hygyrchedd, neu os
cewch chi broblemau technegol o unrhyw fath, gallwch gysylltu â
ni’n syth trwy ddefnyddio’r ffurflen adborth neu’r brif ffurflen
gysylltu.
Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â’r safle, mae croeso ichi
anfon e-bost at olygydd y we: golygyddywe@ccw.gov.uk.