Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Help gyda’r safle

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn hyrwyddo amgylchedd a thirweddau Cymru, gan anelu at wneud yr amgylchedd yn rhan werthfawr o fywydau pawb yn y wlad.   Mae ein gwefan newydd yn rhan o’r ymdrech’n yma, ac rydym am sicrhau y gall pawb fwynhau’r safle.   Felly, mae hi’n bwysig inni gael safonau hygyrchedd o’r radd flaenaf.

Trwy ein gwefan, rydym yn gobeithio ei gwneud hi’n haws i bawb gael gafael ar wybodaeth am ein gwaith, ynghyd â gwybodaeth am holl ryfeddodau amgylchedd Cymru.  

Felly, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn gwbl hygyrch i bawb o fewn y gymdeithas.

Gwelir bod y wefan wedi ei chynllunio’n ofalus – a bod safonau caeth wedi eu rhoi ar waith – er mwyn sicrhau bod defnyddwyr a chanddynt anabledd yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a geir o’i mewn yn rhwydd, gan gynnwys defnyddwyr a all fod yn ddall neu rai a chanddynt nam ar eu golwg.   Hefyd, rydym yn sicrhau bod y defnyddwyr hynny sy’n cael trafferth i ddarllen yn gallu defnyddio’r safle.

Rydym wedi dilyn y canllawiau a gafodd eu pennu gan W3C (sef consortiwm y we fyd-eang) er mwyn sicrhau – er enghraifft – fod codau ein safle yn cefnogi darllenwyr sgriniau (sef technoleg sy’n ei gwneud hi’n bosibl i’r safle gael ei ‘ddarllen’ ar gyfer pobl â nam ar eu golwg neu bobl ddall).

Bydd logo gwefan hygyrch 'See it Right' y Royal National Institute for the Blind (RNIB) ar wefan y Cyngor yn fuan.

Mae'r RNIB yn rhoi'r logo i wefannau sy wedi cael eu hasesu'n ffurfiol gan y sefydliad ac sy'n cynnig safonau hygyrchedd o'r radd flaenaf. Bydd ein safle yn cael ei harchwilio gan yr RNIB.

Mae gwefan y Cyngor Cefn Gwlad yn defnyddio arddulliau CSS a chod XHTML dilys.

Ein nod yw cydymffurfio â safonau hygyrchedd WAI-AA [WCAG 1.0], ac mae mwyafrif llethol ein tudalennau gwe’n cyrraedd y safon yma. Cyn bo hir, byddwn yn mynd ar drywydd safon WCAG 2.0.

Fe fyddem yn croesawu eich barn ynglŷn â pha mor hawdd yw defnyddio’r wefan. Anfonwch eich sylwadau at ymholiadau@ccw.gov.uk.

Dim llawer o brofiad o ddefnyddio’r we?

Gall defnyddio technoleg ddrysu pawb ohonom ar y cychwyn.   Os nad ydych yn gyfarwydd â defnyddio’r we, mae yna nifer o gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim i’w cael, gan gynnwys gwasanaeth rhagorol o’r enw Webwise gan y BBC.   Mae’r cyrsiau yma’n rhad ac am ddim, ac maen nhw’n ddelfrydol i ddechreuwyr.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Golygydd y We
C/O Enquiries
CCW
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen