Buddsoddwr Mewn Pobl
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cydnabod mai ei
weithwyr yw ei ased mwyaf gwerthfawr. Yn ystod 2004, fe
wnaethom ni ennill statws fel Buddsoddwr mewn Pobl
(BmP).
Yn ddiweddar, cawsom ein hasesu, a llwyddasom i ddal ein gafael
ar y safon BmP. Golyga hyn ein bod yn bodloni’r
dangosyddion mwyaf llym sy’n arwydd o’n hymrwymiad i wella ein
perfformiad fel corff trwy fuddsoddi yn y dasg o ddysgu a datblygu
ein staff. Proses barhaus yw hon, ac rydym yn
gweithio’n galed i gynnal ein statws BmP. Hefyd, rydym
yn chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella ein perfformiad.