Datganiad preifatrwydd ac ymwadiad
Er mwyn cael ffydd yn y broses o gyfrannu
gwybodaeth breifat i Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“CCGC”) drwy
ffurflenni, cofrestriadau neu geisiadau ar-lein mae angen sicrwydd,
ac mae’r un peth yn wir am gyfrannu i Flog CCGC. Yr hyn sy’n bwysig
i ni, pan fyddwch yn dewis gwneud hyn, yw bod eich preifatrwydd yn
gwbl ddiogel a’n bod ninnau’n ymddwyn mewn ffordd glir a chyfrifol.
Mae diogelu eich gwybodaeth bersonol yn hollbwysig i ni.
Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn
defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni
pan fyddwch yn defnyddio http://www.ccgc.gov.uk (“gwefan CCGC”) neu
‘Ein Golygfa’ (“Blog CCGC”). Mae defnyddwyr Blog
CCGC hefyd yn ddarostyngedig i
Delerau ac Amodau Blog CCGC [cliciwch ar y ddolen
gyswllt i’w hagor]. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r
datganiad hwn neu os nad ydych yn cytuno ag ef, cysylltwch â’r prif
olygydd gwe drwy anfon e-bost i webeditor@ccw.gov.uk cyn defnyddio
gwefan CCGC, gan gynnwys Blog CCGC.
Gall y datganiad preifatrwydd hwn gael ei newid ar unrhyw adeg a
cheidw CCGC yr hawl i wneud newidiadau fel y gwêl orau. Os bydd
unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i’r datganiad preifatrwydd,
byddwn yn rhoi fersiwn wedi ei ddiweddaru o’r
datganiad preifatrwydd [cliciwch ar y ddolen gyswllt
i’w hagor] yn y blog hwn ac ar wefan CCGC. Mae CCGC yn argymell
eich bod yn adolygu’r datganiad hwn yn rheolaidd er mwyn sicrhau
eich bod yn ymwybodol bob amser o’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu
a sut y bydd yn cael ei defnyddio gan CCGC ac unrhyw drydydd parti
y mae’n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth iddo yn unol â thelerau’r
datganiad hwn.
Mae’r polisi hwn yn weithredol o 3 Mai 2010 ymlaen.
-
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
-
Beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth rydym yn ei chasglu?
-
Gyda phwy rydym yn rhannu’r wybodaeth hon?
-
Sut i gael copïau o’r wybodaeth rydym wedi ei chasglu neu ei
newid
-
Diogelwch
-
Dolenni cyswllt
-
Cwcis
1. Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
1.1 Yn gyffredinol, gallwch ddefnyddio’r wefan hon heb roi
unrhyw wybodaeth i ni. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau
ychwanegol, er enghraifft defnyddio Blog CCGC, na fyddant ar gael o
bosibl i chi onid oes gennym wybodaeth benodol amdanoch.
1.2 Gallwn gasglu’r wybodaeth a ganlyn:
[eich enw a manylion cysylltu, gan gynnwys cyfeiriad e-bost [a
manylion cwmni];
- [your name and contact information, including email address
[and company details];
- [gwybodaeth ynglŷn â’ch diddordebau personol neu broffesiynol,
demograffeg, profiadau gyda’n cynnyrch a sut y byddai’n well
gennych i ni gysylltu â chi er mwyn darparu rhagor o ohebiaeth i
chi ynglŷn â’n cynnyrch a’n gwasanaethau.]
2. Beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth rydym yn ei
chasglu?
2.1 Bydd yr holl wybodaeth a’r data a gedwir gan CCGC yn cael ei
storio mewn cronfeydd data sy’n eiddo i CCGC yn unig a neb
arall.
2.2 Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu gwell
gwasanaeth i chi, ac yn fwyaf arbennig er mwyn gwneud y
canlynol:
- cadw cofnodion mewnol;
- gwella’n gwasanaethau a chynllunio ar gyfer datblygiadau ar
safleoedd yn y dyfodol;
- monitro’r defnydd o’r wefan;
- anfon negeseuon e-bost atoch, yn ddarostyngedig i Delerau ac
Amodau defnyddio Blog CCGC, i ddibenion gweinyddu Blog CCGC ar ôl i
chi gofrestru; neu
- anfon copïau atoch o gylchlythyr electronig CCGC, os dywedasoch
eich bod yn awyddus i dderbyn cylchlythyrau o’r fath pan ofynnwyd y
cwestiwn hwnnw i chi yn ystod y broses gofrestru.
2.3 Gallwn gysylltu â chi drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy’r
post.
3. Gyda phwy rydym yn rhannu’r wybodaeth hon?
Ni fyddwn yn trosglwyddo, datgelu, gwerthu, dosbarthu na
phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti oni bai
ein bod wedi cael caniatâd gennych neu ei bod yn ofynnol inni wneud
hynny yn unol â’r gyfraith. Gallwn ryddhau eich gwybodaeth bersonol
i’n hasiantau marchnata uniongyrchol awdurdodedig neu asiantau
eraill oni bai eich bod yn dweud wrthym nad ydych yn dymuno i hyn
ddigwydd.
4. Sut i gael copïau o’r wybodaeth rydym wedi ei chasglu neu ei
newid
4.1 Gallwch ofyn am fanylion am wybodaeth bersonol rydym yn ei
chadw amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd angen talu ffi
fechan. Os hoffech gael copi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch
ysgrifennwch at ein Swyddog Cydymffurfio Diogelu Data yn y
cyfeiriad isod:
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd LL57 2DW
Neu, anfonwch eich cais mewn e-bost at enquiries@ccw.gov.uk.
4.2 Os ydych yn meddwl bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch
yn anghywir neu’n anghyflawn, anfonwch lythyr neu e-bost atom cyn
gynted ag y bo modd. Byddwn yn cywiro neu’n diweddaru unrhyw
wybodaeth cyn gynted ag y bo modd.
5. Diogelwch
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er
mwyn atal mynediad at wybodaeth heb ganiatâd, neu ddatgelu
gwybodaeth heb ganiatâd rydym wedi cyflwyno trefniadau ffisegol,
electronig a rheolaethol i ddiogelu a gwarchod yr wybodaeth a
gesglir gennym ar-lein.
6. Dolenni Cyswllt
Gallwn ddefnyddio dolenni cyswllt i gysylltu â gwefannau eraill
nad ydynt dan ein rheolaeth, er enghraifft, yn yr erthyglau ac fel
adnodd ar ddiwedd llawer o dudalennau a phenodau ar y safle. Ar ôl
i chi adael gwefan CCGC, ni all CCGC fod yn gyfrifol am ddiogelwch
a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych. Dylech gymryd
gofal ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r
wefan dan sylw.
7. Beth yw cwci?
7.1 Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, bydd ein gweinydd gwe yn
siarad yn uniongyrchol â’ch porwr gwe chi, er mwyn arddangos a
darparu gwybodaeth yn gywir. Mae hefyd yn tagio’r porwr â
gwybodaeth am eich ymweliad ac mae’r porwr yn ei dro yn cadw’r
wybodaeth hon mewn ffeil destun sylfaenol.
7.2 Pa bryd bynnag y byddwch yn dewis dychwelyd i
http://www.thewelshview.co.uk bydd yr wybodaeth yn cael ei hanfon
yn ôl at y gweinydd wedyn bob tro y bydd eich porwr yn gofyn am
dudalen, ac yn ‘siarad’ â’r gweinydd.
7.3 Mae cwcis yn rhoi gwybodaeth gyffredinol bwysig i ni am
ymddygiad ein defnyddwyr wrth ddefnyddio’n gwefan – pa feysydd y
maent yn mwynhau ymweld â hwy, pa wasanaethau y maent yn eu
defnyddio’n aml, ac yn y blaen.
7.4 Nid yw gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau
e-bost yn cael ei storio yn y cwcis hyn.
7.5 Mae’r rhan fwyaf o’r porwyr gwe’n derbyn cwcis yn ôl
rhagosodiad. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo’n anghyfforddus ynglŷn
â chwcis, mae’n bosibl y gallwch ofyn i’ch porwr gwe wrthod pob
cwci neu adael i chi wybod pan fydd cwci’n cael ei anfon i’ch
cyfrifiadur chi. Gallwch wedyn ddewis a ydych am dderbyn y cwci ai
peidio.
7.6 Bydd CCGC yn diweddaru’r telerau hyn os bydd y polisi cwcis
yn cael ei newid a’i addasu. Dylech geisio ymweld â’r dudalen hon o
bryd i’w gilydd, er mwyn adolygu’r telerau sefydlog gan eich bod
wedi eich rhwymo iddynt fel defnyddiwr.
7.7 Mae gwybodaeth ychwanegol am gwcis ar gael ar nifer o
wefannau: