Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mapiau

Mapiau Mynediad i Gefn Gwlad

Mae cefn gwlad Cymru ar flaenau eich bysedd - defnyddiwch ein map rhyngweithiol er mwyn gweld i ble y gallwch fynd. Os nad oes gennych feddalwedd Flash, gallwn ddweud wrthych am yr hyn y gallwch ei weld a'i wneud ar y map Mynediad i Gefn Gwlad 'rhyngweithiol':

  • Mae ffenestr map yn eich galluogi i lywio trwy Gymru. Mae mapiau cefndir yr Arolwg Ordnans yn amrywio o rai ar raddfa fach (1:250,000) i rai ar raddfa fawr (1:10,000) wrth i chi chwyddo i mewn neu allan.
  • Mae cyfleuster chwilio i'w gael i'ch galluogi i chwilio yn l lle, cod post neu enw safle.
  • Gallwch ddefnyddio cyfleuster mesur er mwyn cyfrifo pellter rhyw lwybr arbennig.
  • Ar gyfer unrhyw lwybr neu safle cefn gwlad a ddewiswch, fe fydd offer gwybodaeth yn gallu rhoi gwybod i chi beth yw enw'r safle, y cyfeirnod grid a rhif map Explorer yr Arolwg Ordnans, yn ogystal � nodi ym mha awdurdod unedol y mae o.
  • Fe welwch gysylltau a fydd yn arwain at wybodaeth bellach am y safle neu'r llwybr, gan gynnwys manylion am gludiant cyhoeddus.

Pa wybodaeth all y map hwn ei rhoi i chi?

Tir Mynediad - Mae'r map rhyngweithiol yn dangos tir mynediad y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGHT), tir mynediad caniataol a thir a chanddo hawliau mynediad o fath arall. Edrychwch ar y bennod Mwynhau Cefn Gwlad i gael mwy o wybodaeth.

Llwybrau wedi'u hyrwyddo - defnyddiwch offer gwybodaeth i gael mwy o fanylion am lwybrau lleol, Llwybrau Rhanbarthol a Llwybrau Cenedlaethol. Edrychwch ar y bennod Mwynhau Cefn Gwlad i gael mwy o wybodaeth.

Mynediad caniataol ar ffermydd Tir Gofal - mae tirfeddiannwr neu denant y tir hwn wedi rhoi caniat�d i'r cyhoedd fynd ar y tir at ddibenion gweithgareddau hamdden awyr agored. Caiff llwybrau troed, mynediad ar gyfer yr anabl, llwybrau march a llwybrau beicio eu hamlygu trwy gyfrwng symbolau lliw.

Symbolau - Caiff arwyddion a symbolau allweddol eu defnyddio i dynnu sylw at Barciau Gwledig, Parciau Cefn Gwlad, Gwarchodfeydd Natur, Canolfannau Ymwelwyr, Safleoedd Bywyd Gwyllt, Coetiroedd a Pharciau Cenedlaethol. Defnyddiwch yr offer gwybodaeth yn ffenestr y map i gael mwy o wybodaeth am ryw safle arbennig.

Gwaharddiadau a Chyfyngiadau - Weithiau, efallai y bydd amgylchiadau arbennig yn eich atal rhag ymweld � thir y byddech, fel arall, yn gallu mynd arno. Mae ffordd hawdd o ddefnyddio'r swyddogaeth mapio yn eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth am gyfyngiadau ar dir mynediad CGHT. Os na allwch ddefnyddio'r mapiau, ac os hoffech gael gwybod pa gyfyngiadau sydd mewn grym mewn ardal arbennig, cysylltwch �'n t�m ymholiadau ar 0845 1306229 neu anfonwch e-bost at ymholiadau@ccw.gov.uk

Mynegai Difrifoldeb T�n - mae'r mynegai'n dangos beth yw'r rhagolygon ar gyfer y diwrnod presennol ac ar gyfer y pum diwrnod canlynol, gan eich galluogi i asesu lefelau difrifoldeb t�n ochr yn ochr � chyfyngiadau ar dir mynediad CGHT. Edrychwch ar y Mynegai Difrifoldeb T�n yn y bennod Mwynhau Cefn Gwlad i gael mwy o wybodaeth.

Pa gysylltau defnyddiol a geir ar y map hwn?

  • Ceir tiwtorial defnyddiol mewn Flash o'r enw 'Sut i ddefnyddio ein mapiau', lle cewch gyfarwyddiadau wedi eu hanimeiddio.

I gael gwybodaeth ddiweddar am Fynegai Difrifoldeb Tân y Swyddfa Dywydd, cliciwch ar y ‘Map Difrifoldeb Tân’ ar ochr chwith y dudalen. Byddwch yn cael eich tywys at fap ar wahân yn dangos y Mynegai Difrifoldeb Tân.

Absenoldeb acen grom ar enwau safleoedd:

Mae’n flin gennym nad oes acen grom (^) ar enwau Cymraeg y safleoedd, cyfyngiadau technegol sy’n cyfrif am hyn.
© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, 100018813 (2008)

Nid yw'r disgrifiad o hawliau mynediad yn awgrymu nac yn mynegi unrhyw sicrwydd ynglyn â'i gywirdeb neu'i gyflawnrwydd. Nid yw'r dull o gynrychioli unrhyw ffordd, unrhyw drac neu unrhyw lwybr ar y map yma yn dystiolaeth o hawl dramwy.  I weld yr amodau a'r telerau llawn cliciwch yma.

Os hoffech, gallwch lawrlwytho meddalwedd Flash o wefan Adobe er mwyn gweld y mapiau Mynediad Agored eich hun.