Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mapiau

Arwyddion a symbolau allweddol

Manylion arwyddion a symbolau’r map mynediad cefn gwlad

Tir mynediad

Tir Mynediad CROW  - wedi ei greu gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 sy’n cynnwys tir agored, tir comin a choedwigoedd cyhoeddus.

Crow Access Land

Tir gyda hawliau mynediad arall. Yn cynnwys tir comin Adran 15, tir comin gyda gweithredoedd mynediad, Deddf  1899 - tir comin, preifat neu leol.

Land with other rights of access

Tir gyda chaniatâd mynediad – Hwn yn cynnwys cytundeb Tir Gofal (sy’n rhoi mynediad i rannau arbennig dan gytundebau mynediad fferm), yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Pharciau Cenedlaethol a chytundebau sy’n golygu fod tirfeddiannwyr neu denantiaid yn caniatáu mynediad i’r cyhoedd ar gyfer hamddena yn yr awyr agored, fel arfer ar droed. 

Eithriadau neu gyfyngiadau – i dir mynediad CROW

(Ni fydd cyfyngiadau sydd mewn grym ar dir mynediad CROW yn effeithio ar lwybrau cyhoeddus)

Mae’r hawl mynediad wedi ei eithrio, sy’n golygu nad oes caniatâd i chi fod ar y tir tra bo’r eithriad mewn grym.

Right of access excluded

Mae’r hawl mynediad wedi ei gyfyngu, sy’n golygu fod gennych hawl i fod ar y tir cyn belled â’ch bod chi’n cydymffurfio â’r amodau osodwyd gan y cyfyngiad

Right of access restricted

Mae’n bosib fod eithriad neu gyfyngiad ar y mynediad. Bydd yr hawl mynediad yn cael ei eithrio neu ei gyfyngu, ond dyw’r union ddyddiadau ddim wedi eu cadarnhau eto.

Possible exclusion or restriction

Indecs Difrifoldeb Tân

 – graddfa sy’n cael ei defnyddio i ddarogan risg tân uchel oherwydd amodau tywydd eithriadol neu newidiadau eithriadol yng nghyflwr y tir. Dylai’r lliwiau hyn gyd-fynd â’r rhai sydd ar y we.

Risg tân eithriadol

Exceptional fire risk

Risg tân uchel

High fire risk

Risg tân cymedrol

Moderate fire risk

Risg tân isel

Low fire risk

Risg tân isel iawn

Very low fire risk

Llwybrau sy’n cael eu hyrwyddo

 – Llwybrau mewn gwyrdd, glas tywyll neu oren. Mae’r rhain yn cael eu hyrwyddo a’u cynnal gan ein partneriaid. Mae rhai llwybrau yn defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus ac mae rhai ar lwybrau trwy ganiatâd y tirfeddiannwr. Defnyddiwch yr offer gwybodaeth yn ffenestr y map i gael mwy o fanylion am lwybr arbennig.

Llwybrau Lleol - Cerdded


Llwybrau Lleol - Taith beicio


Llwybrau Lleol - Mynediad i'r anabl



Llwybrau rhanbarthol

Llwybrau cenedlaethol

Llwybrau gyda chaniatâd ar ffermydd Tir Gofal

 – Mae’r tirfeddiannwr neu denant y tir yma wedi caniatáu mynediad cyhoeddus ar gyfer hamddena yn yr awyr agored, fel arfer ar droed.

Llwybrau cerdded

Mynediad i’r anabl

Llwybrau ceffylau a seiclo

Symbolau

 – Dangosir y safleoedd hyn gyda chaniatâd ein partneriaid ac, fel arfer, maen nhw yn agored i’r cyhoedd drwy’r flwyddyn. Defnyddiwch yr offer gwybodaeth yn ffenestr y map i gaael mwy o wybodaeth am safle arbennig.

Parc Gwledig


Parc Fforest


Parc Trefol



Safle Cefn Gwlad

Dyffryn Elan

Gwarchodfa Natur Leol



Gwarchodfa Natur Genedlaethol


Cadw

Gwarchodfa RSPB

Canolfan Ymwelwyr

Ymddiriedolaeth Natur

Coed Cadw

Hostel Ieuenctid


Parciau Cenedlaethol

Ein safleoedd eraill

Help