Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mapiau

Adnabod tir mynediad

O dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW), tir agored yw’r rhan fwyaf o dir mynediad. Rhostir gwyllt, mynydd, gwaun a rhos. Clytwaith o dirweddau sy’n cynnwys 'tir comin' (tir sy’n cael ei gofnodi ar y cofrestrau swyddogol ac yn nwylo’r awdurdodau cofrestru tir comin), ynghyd ag ardaloedd eraill o ‘fforestydd cyhoeddus dynodedig’ ble mae’r tirfeddianwyr yn caniatáu mynediad – er enghraifft, y Comisiwn Coedwigaeth.

Mae modd gweld tir mynediad agored CROW ar fapiau “Explorer” yr Arolwg Ordnans(1:25000).

Mae’r ardaloedd CROW wedi eu lliwio’n felyn gydag ymylon oren-frown.

Dangosir tir coedwigaeth sydd wedi ei ddynodi ar gyfer mynediad cyhoeddus mewn lliw gwyrdd golau, gyda’r un ymyl oren-frown.

Dangosir tir CROW hefyd mewn lliw melyn ar ein map mynediad rhyngweithiol.

Rydym hefyd yn dangos tir mynediad statudol arall fel Adran 15 Deddf CROW sy'n cynnwys tir comin mewn trefi a thir comin gyda gweithredoedd ar gyfer mynediad, tir o dan Ddeddf Tiroedd Comin 1899 a thir o dan Ddeddf Breifat neu Leol.

Tra byddwch yn cerdded allan yn yr awyr iach, cofiwch chwilio am y symbol mynediad ar arwyddion.

Mae mapiau Arolwg Ordnans (OS) “Explorer” hefyd yn tynnu sylw at bwyntiau gwybodaeth allweddol ar gyfer tir mynediad CROW. Mae gwybodaeth bwysig yn cael ei harddangos yn y llefydd yma, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau a allai fod mewn grym.

Nid yw mapiau Arolwg Ordnans “Explorer” yn dangos Tir Cymen na Thir Gofal na darnau o dir mynediad CROW sy’n llai na 5 hectar.

 

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim Cefn Gwlad (Mynediad Cefn Gwlad)
C/O Ymholiadau
Maes Y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
08451 306229
Adborth y dudalen