Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mapiau

Cyfyngiadau ar y tir

Mae modd  mwynhau’r awyr iach mewn pob math o lefydd yng Nghymru. Ond weithiau bydd amgylchiadau arbennig yn eich cyfyngu. Mae’r cyfyngiadau hyn mewn grym fel arfer er mwyn diogelu’r dirwedd ac er mwyn diogelu pobl ...

Mae gwahanol fathau o gyfyngiadau tir ac maen nhw’n gallu amrywio yn ôl amser – rhai am gyfnodau byr, eraill am gyfnodau hir. Mae rhai yn barhaol hyd yn oed. 

Er nad oes cyfyngiadau mewn grym ar hawliau tramwy, fel llwybrau cyhoeddus, maen nhw’n gallu rheoli mynediad i ardaloedd penodol.

Er enghraifft, efallai fod cŵn yn cael eu gwahardd neu fod rhaid i chi fynd i mewn neu adael mewn mannau penodol.

Gall rhai cyfyngiadau eich rhwystro rhag ymweld â mannau yn gyfangwbl.

Pwy sy’n gosod y cyfyngiadau?

  • Fe all yr ‘Awdurdodau Perthnasol’ fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol osod ‘cyfyngiad drwy gyfarwyddyd’.
  • Gall tirfeddianwyr, tenantiaid a phobl sydd â diddordeb cyfreithiol yn y tir gysylltu ag un o’r awdurdodau perthnasol i wneud cais am ‘gyfyngiad dewisol’.
  • Mae’n bosib hefyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn a’r Ysgrifennydd Cartref osod cyfyngiadau yn sgil gofynion amddiffyn neu ddiogelwch cenedlaethol.
Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim Cefn Gwlad (Mynediad Cefn Gwlad)
C/O Ymholiadau
Maes Y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
08451 306229
Adborth y dudalen