Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mapiau

Beth alla’ i ei weld ar y map?

Mae’r map mynediad i gefn gwlad yn lle da i ddechrau os ydych am fynd i gerdded yng Nghymru.

Mae gennym deithiau cerdded sy’n addas i bawb, pa un ai a ydych yn ymweld â Gogledd, De neu Ganolbarth Cymru, a gallwch fod yn siŵr os byddwch yn dewis un o’n teithiau, nid yn unig y bydd modd i chi weld a yw’n addas ar eich cyfer chi a'ch teulu, ond hefyd y byddwch yn gwybod y dylai'r llwybr fod wedi'i gynnal a'i gadw i safon uchel. Mae gennym nifer o bartneriaid yng nghefn gwlad sy'n darparu’r llwybrau a'r mannau gorau i ymweld â hwynt ar ein cyfer er mwyn eich helpu i fwynhau eich ymweliad â chefn gwlad.

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gerdded ein llwybrau, yna rhowch wybod i ni a byddwn ninnau’n pasio eich sylwadau ymlaen at yr unigolyn priodol.

Nid yw pawb yn dymuno dilyn llwybr sydd wedi’i hyrwyddo, felly, os fyddai'n well gennych gerdded llwybr Hawl Tramwy Cyhoeddus neu fanteisio ar ryddid Tir Mynediad, gallwch ‘chwyddo’ ein map lliw i weld i ble y gallwch fynd. I’r rhai ohonoch sydd â mwy o ddiddordeb mewn cerdded tir Mynediad Agored, a elwir weithiau’n ‘hawl i grwydro’ ac sydd wedi’i liwio’n felyn yn ein mapiau, cofiwch ddarllen yr wybodaeth rydym yn ei darparu (wedi’i lliwio’n goch, pinc neu â chroeslinellau coch) am unrhyw gyfyngiadau neu waharddiadau a allai fod mewn grym adeg eich ymweliad. Hefyd, cofiwch ufuddhau i unrhyw arwyddion y dewch ar eu traws.

Ar rai adegau penodol ar y flwyddyn, mae arnoch angen bod yn fwy ymwybodol fod perygl posibl o dân yng nghefn gwlad. Er mwyn eich helpu â hyn, mae gennym Ddangosydd Perygl Tân sy'n dangos lefelau o 1 (risg isel iawn) i 5 (risg eithriadol). Byddai sgôr o bump yn cynrychioli tywydd eithriadol o sych neu newidiadau dramatig yng nghyflwr y tir.

Os ydych yn cael anhawster defnyddio ein mapiau, ewch i'r dudalen ‘Sut i ddefnyddio’r map' i gael cymorth cwbl ryngweithiol.

Rydym yn defnyddio mapiau Explorer yr Arolwg Ordnans fel ein sylfaen mapiau. Gallwch hefyd brynu copïau o’r mapiau hyn, sy’n dangos tir mynediad y ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, gan yr Arolwg Ordnans.

 

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim Cefn Gwlad (Mynediad Cefn Gwlad)
C/O Ymholiadau
Maes Y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
08451 306229
Adborth y dudalen