Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mapiau

Beth yw mynediad caniataol?

Mewn rhai achosion, bydd tirfeddianwyr yn rhoi caniatâd i bobl gerdded drwy dir preifat, er nad oes gan yr ymwelwyr unrhyw hawliau cyfreithiol.  

Mae’r ‘mynediad drwy ganiatâd’ yma, mewn lliw piws ar ein map mynediad i gefn gwlad, yn cynnwys rhywfaint o dir a geir o fewn cytundebau Tir Gofal, sy'n caniatáu mynediad i rannau penodol o'r fferm.

Mae hefyd yn cynnwys cytundebau mynediad tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r parc Cenedlaethol ac mae'n golygu fod y tirfeddiannwr neu'r tenant wedi cytuno i ganiatáu mynediad i'r cyhoedd ar gyfer hamdden awyr agored, fel arfer ar droed.

Efallai y bydd rhai o’r ardaloedd a’r llwybrau mynediad drwy ganiatâd ar gau ar rai adegau o’r flwyddyn am resymau amaethyddol (e.e. adeg wyna neu losgi grug) neu er mwyn diogelu ardaloedd sensitif (e.e. tra bydd adar prin yn nythu).

Ga’ i fynd a fy nghi?

Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr drwy’r amser mewn ardaloedd neu ar lwybrau mynediad drwy ganiatâd. Ond mae’n bosib na fydd modd mynd â chŵn yno o gwbl ar rai adegau o’r flwyddyn.

Yn gyffredinol, gallwch fynd â chi os nad oes cyfyngiad mewn grym i’ch atal rhag gwneud hynny.

Os oes amheuaeth, cadwch eich ci ar dennyn rhag ofn iddo niweidio anifeiliaid fferm, adar sy’n nythu neu fywyd gwyllt arall.

Beth sydd wedi ei wahardd?

Heb ganiatâd y tirfeddiannwr neu’r tenant, chewch chi ddim gwersylla, seiclo, marchogaeth ceffylau, na rasio, yrru neu reidio cerbyd oni bai ei fod yn sgwter anabledd neu fygi.

Ar pa dir y mae mynediad drwy ganiatâd?

  • Tir Cymen a Thir Gofal – dau gynllun amaeth-amgylcheddol dan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ffermwyr yn arwyddo cytundeb deng mlynedd gan addo rheoli eu ffermydd mewn ffordd sy’n sensitif i’r amgylchedd. Gall hyn gynnwys llwybrau arbennig neu fynediad mewn ardaloedd arbennig. Bydd y llwybrau hyn i gyd wedi eu harwyddo’n glir a bydd arwyddion bychain i’ch tywys.
  • Parciau Gwledig – i’w canfod ar draws Cymru. Mae rhai mewn perchnogaeth breifat ac yn cael eu rheoli’n breifat, gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er enghraifft. Mae’r rhan fwyaf yn nwylo awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill. Fel arfer, mae mynediad yn rhad ac am ddim, er efallai fod rhaid talu am barcio car neu ddefnyddio cyfleusterau, neu pan fydd digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal.
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol  - mae gan yr Ymddiriedolaeth dir ble mae mynediad, gan gynnwys ardaloedd yn y mynyddoedd a ger y glannau. Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am fwy o wybodaeth am diroedd gyda chaniatâd mynediad.
Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim Cefn Gwlad (Mynediad Cefn Gwlad)
C/O Ymholiadau
Maes Y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
08451 306229
Adborth y dudalen