Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mapiau

Lawrlwytho SGDd – Croeso

Croeso i dudalennau lawrlwytho data SGDd. Mae’r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth am ddata sydd gennym yn ymwneud â’n System Gwybodaeth Ddaearyddol (SGDd), ynghyd â’r setiau data hynny sydd ar gael i’w lawrlwytho. Nid yw data digidol o fath arall, er enghraifft mapiau cefndir, yn cael ei gynnwys. Er mwyn gweld, ymholi neu ddadansoddi’r data hwn, fe fyddwch angen meddalwedd SGDd neu feddalwedd ar gyfer edrych ar fapiau.

Rydym wedi cael gwybod na cheir caniatâd i ddefnyddio ein Setiau Data Ardaloedd Gwarchodedig (sydd wedi deillio o Fapiau Sylfaenol yr Arolwg Ordnans) ar raglenni Google Earth a Google Maps, oherwydd y posibilrwydd o dorri Hawliau Eiddo Deallusol yr AO.

Felly, rydym yn hysbysu ein cwsmeriaid ynghylch y sefyllfa, gan eu cynghori i beidio â defnyddio ein data yn y ffordd yma.

Fodd bynnag, mae Microsoft a’r Arolwg Ordnans wedi dod i drefniant, ac fe allai Amodau a Thelerau Trwyddedu addas ganiatáu ichi ddefnyddio’r Data ar Virtual Earth.

Rydym yn eich cynghori i ddarllen Amodau a Thelerau unrhyw drefniadau trwyddedu â Google Earth, Google Maps a Virtual Earth yn ofalus iawn.

Y gobaith yw y bydd yr Arolwg Ordnans a Google yn dod i gytundeb yn y dyfodol agos.


01/09/2010

Mae newidiadau ac ychwanegiadau wedi cael eu gwneud i nifer o setiau data:

AHNE – ac eithrio AHNE Dyffryn Gwy, mae pob safle erbyn hyn wedi eu digido yn erbyn OS MasterMap

ACA – Mân newidiadau i rai priodoleddau;
Hysbysu Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion / Meirionnydd Oakwoods and Bat Sites - 05/07/2010

AGA - Dosbarthu AGA Liverpool Bay / Bae Lerpwl - 20/08/2010

SoDdGA - Hysbysu:
SoDdGA Mwyngloddfa Pennant - 11/08/2010

SoDdGA - Cadarnhau:
Afon Irfon - 08/07/2010
Brithdir a Chwm Mawr - 08/07/2010
Rhosydd Nant Eithrim - 08/07/2010
Rhosydd Llanpumsaint - 13/08/2010
Creuddyn - 19/08/2010
Newidiadau i SoDdGA Brithdir a Chwm Mawr



Yn anffodus, nid yw’r set ddata Coetiroedd Lled-naturiol a Hynafol ar gael i’w lawrlwytho, ond gellir anfon copi atoch trwy e-bost.

05/01/2009
Mae mân newidiadau wedi’u cyflwyno i nifer o safleoedd o fewn nifer o setiau data. Mae’r rhain yn cynnwys:

SoDdGA;
AGA;
ACA.

Rydym yn eich cynghori i adnewyddu pob un o’r setiau data yma.

Hefyd, cadarnhawyd SoDdGA Rhymney River Section (Awdurdod Unedol Caerdydd) ar 06/11/2008.

Ym mhob set ddata, mae maes priodoleddau newydd wedi’i ychwanegu “metadata_ref”. Mae ganddo gyswllt url â’n hadnodd OLIB ac mae’n cynnwys metaddata cyfamserol ar gyfer pob set ddata.



01/09/2008
Mae’r setiau data isod yn awr wedi’u cywiro’n gyfan gwbl yn ôl MasterMap yr Arolwg Ordnans ar ôl gwelliant cywirdeb lleoliadol (PAI):

SoDdGA
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
a Ramsar

ac rydym yn gweithio ar y dynodiadau eraill ar hyn o bryd.

Yn ychwanegol at hyn, gwnaethpwyd cywiriadau, newidiadau i’r canlynol:

Gwarchodfa Natur Genedlaethol:
Gwlyptiroedd Casnewydd - Hysbyswyd

SoDdGA:
Rhos Tonyrefail - Hysbyswyd
Porfeydd Nant Clydach
SoDdGA Tŷ Bach Hen Ysgol Arthog – Yr enw wedi’i newid i SoDdGA Tŷ Bach Ystlumod – Cadarnhawyd



16/04/07
Os hoffech ddefnyddio unrhyw un o’r setiau data hyn ar gyfer menter fasnachol, yna fe fydd yn rhaid i chi gysylltu â ni i gael caniatâd i wneud hynny dan Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Gyhoeddus. Hefyd, fe fyddwch angen cael caniatâd oddi wrth yr Arolwg Ordnans, sy’n cadw Hawliau Eiddo Deallusol dros y data hwn.

Mae nifer o newidiadau wedi’u cyflwyno i’r Setiau Data Safleoedd Gwarchodedig:

SoDdGA:
Ganllwyd – Cadarnhau
Craig y Don – Ymestyn
Coedydd Derw Elwy – Newid
Tŷ Bach Hen Ysgol Arthog – Hysbysu
Rhan o Afon Rhymni – Hysbysu

Gwarchodfeydd Natur Lleol:
Coedydd Dingle Uchaf – dynodwyd
Coedydd Bodlondeb - dynodwyd

Gwarchodfa Natur Genedlaethol:
Gwlyptiroedd Casnewydd - Hysbysu

Mae’r holl Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yn awr wedi’u cywiro yn ôl MasterMap yr Arolwg Ordnans ar ôl gwelliant cywirdeb lleoliadol (PAI).



10/03/2008
Mae nifer o setiau data wedi’u diweddaru:

SoDdGA:
Craig y Don – ei ymestyn
Tÿ Bach Hen Ysgol Arthog – ei hysbysu
Rhymney River Section – ei ailhysbysu
Coedydd Derw Elwy – newid priodoledd
Rhosneigr Reefs – newid ffin
Penstrowed Quarry – ei gadarnhau
Coedydd y Barri – ei gadarnhau
Ynys Llanddwyn – newid ffin
Ganllwyd – ei gadarnhau

GNLl:
Dingle Uchaf – ei hysbysu
Coetir Bodlondeb – ei hysbysu

GNC:
Mae’r holl safleoedd wedi’u haddasu ar gyfer y cynllun PAI ac wedi’u rhoi ar OS Mastermap

Glan yr Afon – ei ddynodi



16/11/07
Mae dwy o setiau data wedi’u diweddaru.

Ceir dau ychwanegiad at y set ddata Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, gan fod Ymgeiswyr am ACA Afon Dyfrdwy a Môr Hafren wedi’u hysbysu.

Hefyd, cafodd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig newydd – Rhos Tonyrefaill yn Awdurdod Unedol Rhondda Cynon Taf – ei hysbysu ar 3 Hydref.


Cyn i chi allu lawrlwytho’r setiau data, fe fydd yn rhaid i chi gytuno ag Amodau a Thelerau’r Drwydded Ddata, gan gofrestru gyda ni wedyn.   Caiff yr wybodaeth a roddwch wrth gofrestru ei hystyried yn gyfrinachol dan y Ddeddf Diogelu Data, a dim ond y Cyngor Cefn Gwlad fydd yn defnyddio’r wybodaeth honno ar gyfer gwella’r gwasanaeth a gynigir i chi ar y tudalennau lawrlwytho.

Wrth i wefan newydd y Cyngor ddatblygu, ein bwriad yw cynyddu nifer y setiau data ar-lein sydd ar gael.   Rydym eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch datblygiadau a chynlluniau cyfredol, felly cofiwch fwrw golwg dros y tudalennau’n gyson.

I weld pa setiau data sydd ar gael, i gael gwybodaeth dechnegol ac i weld y cytundeb trwydded, cliciwch ar y tabiau ar yr ochr chwith dan Cynnwys.   Yna, cewch eich arwain at yr adran lawrlwytho.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim mapiau
C/O Ymholiadau
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen