Sut i ddefnyddio ein mapiau
Mae’n mapiau rhyngweithiol newydd wedi cael eu
cynllunio’n arbennig i’ch helpu i ffeindio’ch ffordd yn hawdd drwy
safleoedd a nodweddion diddorol niferus Cymru – p’un ai ar dir
mynediad agored neu mewn ardal warchodedig arbennig – maen nhw ar y
map. Mae gan bob un o’n mapiau arwyddion a symbolau allweddol
i’ch helpu i adnabod y nodweddion yma, mae gan rai diwtorial hawdd
ei ddilyn hefyd...
Map mynediad cefn gwlad
Mae’r map mynediad cefn gwlad yn dangos y wlad agored i gyd – y
rhostiroedd gwyllt, mynyddoedd, gweundiroedd a ffridd – sy’n dod o
dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW). Mae hefyd yn
cynnwys unrhyw dir ‘comin’ a thir cyfyngedig sydd eto i gyd yn
agored i grwydro arno.
Dewch i adnabod yr arwyddion a’r symbolau allweddol gynta, ac
yna dilynwch ein canllaw ar-lein.
Buan iawn y byddwch yn cynllunio’ch antur yng nghefn gwlad.
Map ardaloedd gwarchodedig
Mae’r map ardaloedd gwarchodedig yn dangos gwir brydferthwch
Cymru, yn tynnu sylw at ein Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd
Natur Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Eithriadol Arbennig.
Mae’r arwyddion a’r symbolau allweddol y byddwch eu hangen i
ddatgloi trysorau tir y wlad ar gael. Bydd y tiwtorial
ar-lein yn barod yn yr wythnosau nesaf.
Lawrlwytho ffin System Wybodaeth Ddaearyddol
(GIS)
Lluniwyd y drefn lawrlwytho GIS i alluogi mapwyr proffesiynol
cofrestredig i lawrlwytho ffin ddigidol ein Safleoedd Gwarchodedig
er mwyn eu defnyddio mewn System Wybodaeth Ddaearyddol.
Wedi cofrestru, gall arbenigwyr ddefnyddio’r data GIS sydd ar
gael o’r wefan hon, yn amodol ar y telerau a’r amodau, y mae’n
rhaid i chi eu darllen.
Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau i’n catalog ffiniau, i’ch
galluogi i fynd at wybodaeth GIS benodol a’i lawrlwytho yn hawdd
iawn.
Nid yw’n dau fap olaf, LANDMAP a’n mapiau rhanbarthol newydd,
wedi gorffen cael eu hailddatblygu – ond gwyliwch allan amdanynt yn
nes ymlaen yn y flwyddyn.
LANDMAP
Drwy’r Cynulliad Cenedlaethol, mae gan Gymru gyfrifoldeb i reoli
ei thir mewn ffordd gynaliadwy. Y system wybodaeth
genedlaethol yw LANDMAP, a luniwyd gan Gyngor Cefn Gwlad
Cymru i wneud hynny a fel bod y tirwedd yn cael ei ystyried wrth
wneud penderfyniadau.
Mae LANDMAP yn system unigryw, yn caniatau casglu
gwybodaeth am y tirwedd, ei drefnu a’i werthuso’n effeithiol.
Mae’n ymdrin â gwybodaeth cymharol wrthrychol – fel math craig a
gwybodaeth hanesyddol – ynghyd â meysydd mwy goddrychol, fel
dehongli’r tirwedd yn ddiwylliannol.
Er nad yw’r LANDMAP presennol wedi ei ailgynllunio’n helaeth
eto, byddwn yn gwneud hynny yn nes ymlaen yn y flwyddyn.