Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mapiau

LANDMAP – yr atlas tirweddau

Mae LANDMAP yn asesu amrywiaeth tirweddau Cymru. Mae’n nodi ac egluro eu prif nodweddion a rhinweddau – boed yn dirweddau cyffredin, sy’n bwysig yn lleol, neu dirweddau trawiadol enwog.

Bydd LANDMAP, y dull o asesu tirwedd yng Nghymru, wedi cael ei gwblhau â sicrwydd ansawdd erbyn 2008. Cafodd LANDMAP, a gyflwynwyd yn 1997, ei weddnewid yn 2003 pan gyflwynwyd methodoleg meincnodau a phroses sicrwydd ansawdd er mwyn sicrhau cysondeb, cywirdeb a hygyrchedd gwybodaeth am dirweddau yng Nghymru. Mae’r cynllun wedi aeddfedu o ganlyniad i fewnbwn rheolaidd a phrofiad Rheolwyr LANDMAP mewn awdurdodau lleol, yr arbenigwyr agweddau sydd wedi bod yn casglu’r wybodaeth, a’r arweiniad gan y Panel Sicrwydd Ansawdd, ac mae wedi creu adnodd arbennig â chysondeb cenedlaethol ar gyfer gwaith cynllunio a gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â thirwedd.

Adnodd tirwedd sy’n seiliedig ar System Gwybodaeth Ddaearyddol yw LANDMAP lle mae nodweddion a rhinweddau’r dirwedd a dylanwadau ar y dirwedd yn cael eu cofnodi a’u gwerthuso i ffurfio set ddata sy’n gyson yn genedlaethol.

Mae’r arbenigwyr yn casglu Gwybodaeth LANDMAP mewn ffordd drefnus a thrylwyr sy’n seiliedig ar bum pennod fethodolegol - y Dirwedd Ddaearegol, Cynefinoedd Tirweddau, Tirweddau Gweledol a Synhwyraidd, Tirwedd Hanesyddol a Thirwedd Ddiwylliannol. Dylid ystyried y penodau hyn fel y prif ganllawiau ar gyfer tirwedd yng Nghymru.

Mae’r ffaith bod pob un o’r pum haen o wybodaeth yn cael ei defnyddio yn hybu’r broses o wneud penderfyniadau cynaliadwy ynglŷn â’r dirwedd, oherwydd gallai rhywbeth nad yw’n bwysig iawn mewn un haen benodol fod yn bwysig iawn mewn haen arall. Mae rhoi ystyriaeth gyfartal i bob un o’r pum haen yn sicrhau nad yw unrhyw agwedd ar y dirwedd yn cael ei hesgeuluso.

Un o’r prif elfennau sy’n gyfrifol am lwyddiant LANDMAP yn ddiweddar fel y prif adnodd tirwedd yng Nghymru yw’r ffaith bod y wybodaeth yn fwy hygyrch. Mae holl Wybodaeth LANDMAP, sydd â sicrwydd ansawdd, ar gael yn awr o wefan LANDMAP, naill ai drwy ddefnyddio’r System Gwybodaeth Ddaearyddol ar-lein neu drwy lwytho’r wybodaeth i lawr i’ch cyfrifiadur. Mae’r cyfle i ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol ar-lein wedi galluogi pobl sy’n gweithio ym maes tirwedd i ddefnyddio’r wybodaeth heb orfod cael trwydded System Gwybodaeth Ddaearyddol, ac mae hynny’n fanteisiol iawn i adrannau awdurdodau lleol ac ymgynghorwyr preifat.

Mae dolenni cyswllt ar waelod y dudalen hon sy’n eich cyfeirio at fwy o wybodaeth am fethodoleg LANDMAP, Sicrwydd Ansawdd a sut i ddefnyddio gwybodaeth LANDMAP. Gellir llwytho’r holl ganllawiau perthnasol i lawr o’r tudalennau priodol.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim mapiau
C/O Ymholiadau
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen