Dŵr croyw – hanfod bywyd
Mae dŵr croyw’n un o hanfodion bywyd ar y tir
ond, gan fod pobl yn rhoi cymaint o bwysau ar systemau dŵr croyw,
mae cynefinoedd o’r fath mewn peryg ar draws y byd. Mae
rhywogaethau dŵr croyw’n mynd i ddifodiant yn gynt na rhywogaethau
o unrhyw fath arall o gynefin.
Byddwn yn defnyddio afonydd, llynnoedd,
nentydd, camlesi, pyllau a ffosydd ar gyfer cyflenwad dŵr, gwaredu
gwastraff, cynhyrchu ynni, mordwyo, pysgota, hamddena a llawer
mwy.
Cyfoeth o fywyd gwyllt – dŵr croyw yng
Nghymru
Gwlad o ddŵr croyw yw Cymru, o’i lynnoedd
mynyddig clir i byllau diog llawr gwlad, o ruthr y cornentydd i
afonydd araf, llawn gwaddod.
Cadwraeth
Mae gennym wyth safle afon sydd wedi eu
gwarchod sydd efo'i gilydd yn draenio 8,000 kilomedr sgwar.Mae
70 o argaeau sy'n cynnwys 167 o lynnoedd a phyllau mawr, yn ogystal
â nifer o safleoedd dwr eraill llai.
Yng Nghymru, mae yna bwysau mawr ar ein
dyfroedd croyw. Mae’r problemau’n cynnwys:
- Newidiadau strwythurol – amddiffynfeydd rhag
llifogydd, er enghraifft, neu sianelu dŵr.
- Gor-faethloni – pan fydd gormod o faetholion
yn y dŵr.
- Effeithiau glaw asid.
- Llygredd arall.
- Rhywogaethau goresgynnol – planhigion,
anifeiliaid a physgod dieithr sy’n cael eu cyflwyno i gynefinoedd
newydd ac yn eu meddiannu.
- Bydd newid hinsawdd hefyd yn effeithio ar
lefelau dŵr croyw a ble mae, gyda sgîl effeithiau ar rywogaethau
bywyd gwyllt.
Adnoddau pellach...
Rhifyn
Diweddaraf H2O
Darllenwch H2O, sef cylchlythyr sy’n llawn
gwybodaeth ddefnyddiol am brosiectau a gwaith y Grÿp Gwyddorau
Morol a Dÿr Croyw o fewn y Cyngor.