Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Dŵr maethlon – llynnoedd ewtroffig

Llynnoedd ewtroffig naturiol yw’r mathau mwyaf ‘cyfoethog’ o lyn. Mae ganddyn nhw lefelau cymharol uchel o faetholion fel nitrogen a ffosfforws, sy’n helpu planhigion i dyfu.

Mae llynnoedd ewtroffig naturiol yn brin yng Nghymru, am nad yw’r mathau iawn o dirwedd a daeareg yn cyd-ddigwydd yn aml. Ym Môn, Clwyd a Phowys y mae’r rhan fwyaf o enghreifftiau – y mwyaf a’r mwyaf adnabyddus yw Llyn Syfaddan ger Aberhonddu.

Oherwydd effaith gweithgareddau pobl, rydym yn gwybod fod llawer o’r llynnoedd sydd bellach yn ewtroffig – y mwyaf cyfoethog o ran maeth – yn arfer cael eu hystyried yn ganolig.

Beth yw llynnoedd ewtroffig?

Fel arfer, mae llynnoedd ewtroffig yn fas gydag amrywiaeth mawr o fywyd y dŵr. Er eu bod yn brin ac ar wasgar, mae llynnoedd o’r fath yn bwysig yng Nghymru oherwydd eu bod yn cynnal cymysgedd o fywyd gwyllt y gogledd a’r de sydd dan fygythiad trwy’r DU yn gyffredinol. Yn aml, bydd ganddyn nhw ardaloedd eang o gors gerllaw a’r rheiny ynddyn nhw eu hunain yn gynefinoedd sydd dan fygythiad. Mae’r mwyafrif yn bwysig o ran adar y dŵr.

Cadwraeth

Mae llynnoedd ewtroffig gyda dyfrllys o dan wyneb y dŵr yn cael eu gwarchod trwy’r Gorchymyn Cynefinoedd. Rhywogaethau tal yw’r rhain gyda dail prydferth tryloyw. Mae’r planhigion hyn yn prinhau trwy Ewrop oherwydd fod arnyn nhw angen llynnoedd ar dir isel gyda dŵr clir.

Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Cysylltu â’r Tîm
Postal address
Y tim cynefinoedd a rhywogaethau
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen