Rheoli ac adfer
Mae cynefinoedd dŵr croyw yn llefydd bregus ac
yn aml yn anos i ofalu amdanyn nhw na chynefinoedd ar y tir. Er
mwyn cynnal yr amodau sy’n eu cadw’n iach, mae yna alw di-baid am
gyflenwad cyson o ddŵr ffresh, glân – angen sy’n gorfod cael ei
ateb yn brydlon, pan fydd fwyaf o’i eisiau. Mae bygythiadau o
gyfeiriad pobl, llygredd a rhywogaethau dieithr yn golygu fod y
broses adfer yn araf a phoenus, unwaith y bydd difrod wedi’i
wneud.
Er enghraifft, mae afonydd yn dibynnu ar
lifogydd y gaeaf i gael gwared ar silt. Bydd cynnydd sydyn yn
lefelau afonydd yn annog pysgod mudol i symud yn uwch i fyny’r
afon. Mae lefelau isel o ddŵr hefyd yn bwysig – bydd planhigion fel
swigenddail a dŵr-lyriad nofiadwy yn blodeuo yn ystod y cyfnodau
sych hyn.
Bydd pob cynefin dŵr croyw yn cael ei fwydo
gan ddŵr glaw o’r tir o’i gwmpas. Gall y glaw lifo’n uniongyrchol i
mewn i nentydd, neu gall dreiddio’n araf, yn gweithio’n raddol trwy
bridd a chreigiau hydraidd, yn ddŵr croyw sy’n llifo i mewn i
afonydd a llynnoedd.
Yn ystod y broses hon bydd yn toddi deunyddiau
eraill, neu’n cymysgu â nhw. Bydd yn codi mwynau a maetholion o’r
pridd, olew o wyneb y ffordd, taninau o ddeiliach a darnau o
ddeunydd gwastraff a silt.
Mae hyn yn golygu fod y dŵr yn ein hafonydd
a’n llynnoedd yn adlewyrchu’r defnydd a wneir o’r tir o’u
cwmpas.
Fel erioed, mae gweithgareddau pobl – wrth
dynnu dŵr, gwaredu carthion, amddiffyn rhag llifogydd, hamddena a
physgota – i gyd yn cael effaith uniongyrchol ar amgylchedd y dŵr.
Ac mae bygythiadau sylweddol eraill i’w cael o lygredd
anuniongyrchol a rhywogaethau dieithr.
Unwaith y byddan nhw wedi eu difrodi, mae’n
ddrud, yn araf a llafurus i adfer dyfroedd croyw.
Mae llawer o lynnoedd ac afonydd yr ucheldir
yn dal i ddioddef effeithiau ecolegol y glaw asid a syrthiodd yn yr
1970au a’r 1980au, ac efallai y cymer hi ganrif iddyn nhw gael eu
hadfer yn llwyr.
Mae rhai hefyd wedi eu llygru gan fetalau
trwm, fel copr, plwm a thun – gwaddod canrifoedd o gloddio am
fetalau yng Nghymru.