Delweddau o broffil y gwaddodion – lluniau o’r wyneb
Ym mhob un o leoliadau’r arolwg yn ystod taith fôr HABMAP,
defnyddiwyd camera tanddwr ar ffrâm i dynnu delweddau o wely’r môr.
Mae rhai o’r delweddau o’r gwahanol leoliadau i’w gweld yn y
ffolder yma. Os hoffech gael golwg manylach ar nodweddion pob un
o’r lleoliadau, llwythwch y ffeil ‘Station_summaries.zip’ i lawr
o’r adran ‘Eitemau i’w llwytho i lawr’.
Diolch i Stiofán Creaven o Aquafact am yr holl ffotograffau o’r
wyneb.
|
Safle 5 Arklow.
March-anemoni (Urticina eques) a thiwblyngyr trumiog (pomatoceros triqueter) ar dir cobls.
Safle 25 Bae Caernarfon.
Dwylo meirwon (Alcyonium digitatum) a seren frau (Ophiothrix fragilis), ar gregyn/graean caregog a chobls ar dywod gweddol fras.
Safle 35 Bae Caernarfon.
Dwylo meirwon (Alcyonium digitatum), sêr brau (Ophiothrix fragilis) a chregyn marchfisglod (Modiolus modiolus) ar wely tywodlyd y môr.
Safle 37 Bae Caernarfon.
Rhywogaethau o gwrelau (pentapora) ar wely garw o dywod, cregyn a gro.
Safle 39 Trawslun ym môr Celtic Deep.
Olion tyrchu a llwybrau (cranc neu gimwch mae’n debyg) ar wely o laid a thywod mân.
Safle 59 Trawslun deheuol yn Sianel Sant Siôr.
Gwely o dywod, graean a thameidiau o gregyn, a hen gragen deuglawr.
|
Delweddau o broffil y gwaddodion – proffiliau
Mae creu delwedd o broffil y gwaddodion yn dechneg arloesol sy’n
golygu defnyddio camera arbennig a phrism sy’n treiddio i mewn i
wely’r môr i dynnu delweddau o’r 25cm uchaf ohono. Mae cyfansoddiad
gwahanol fathau o wely i’w gweld yn y delweddau a gafodd eu tynnu
ar wahanol safleoedd yn ystod taith arolwg HABMAP. Os hoffech gael
golwg manylach ar nodweddion pob un o’r lleoliadau, llwythwch y
ffeil ‘Station_summaries.zip’ i lawr o’r adran ‘Eitemau i’w llwytho
i lawr’.
|
17C Arklow.
Gwely unffurf o dywod mân.
22AII Bae Caernarfon.
Gwely o dywod mân mwdlyd.
2A Arklow.
Tywod garw gyda thameidiau o gregyn.
35A Bae Caernarfon.
Sêr brau (ophiuroidea spp) a Dwylo meirwon (Alcyonium digitatum) ar wely o dywod mwdlyd.
35B Bae Caernarfon.
Cregyn marchfisglod (modiolus modiolus) ar wely o dywod mwdlyd.
35C Bae Caernarfon.
Marchfisglod (modiolus modiolus), Sêr brau (ophiuroidea spp) a Dwylo meirwon (Alcyonium digitatum) ar wely o dywod gweddol arw a chlai siltiog.
37C Bae Caernarfon.
Cwrelau (Pentapora spp) ar wely o dywod garw.
41C Celtic Deep.
Gwely o laid a thywod mân iawn.
85A Gorllewin Ynys Môn.
Clog-glai a thywyrch hydroid yn gorwedd ar haen denau o dywod gweddol arw.
spi_camera.gif.
Diagram o ddyluniad camera proffilio gwaddodion Aquafact (www.awuafact.ie). Mae ffotograff o’r camera’n cael ei ddefnyddio yn y galeri o’r delweddau o ’r teithiau môr.
|
Delweddau aml-belydr - trawsluniau
Delweddau sydd yn y galeri yma o'r pum safle ar wely'r môr lle'r
oedd llong ymchwilio HABMAP yn gwneud arolygon.
|
Defnyddiwyd seinblymwyr aml-belydr i wneud arolygon ar bum safle yn rhannau deheuol Môr Iwerddon fel rhan o broject HABMAP.
Delwedd aml-belydr o ran ogleddol Sianel Sant Siôr. Nodweddion y safle yw creiriau ar y gwely a thonnau yn y gwaddodion.
Delwedd aml-belydr o ran ddeheuol Sianel Sant Siôr. Tonnau yn y gwaddodion sydd i’w gweld yn bennaf. Mae nodwedd ar ffurf cefnen â chrib syth i’w gweld yn y ddelwedd hefyd, yn y gorllewin.
Delwedd aml-belydr o’r ardal arolwg ym Mae Caernarfon. Mae'n cynnwys tonnau yn y gwaddodion, gwelyau o farchfisglod (Modiolus) a brigiadau creigiog.
Delwedd aml-belydr o Celtic Deep, un o'r rhannau dyfnaf o Fôr Iwerddon. Mae’r rhan yng nghornel dde-orllewin y ddelwedd dros 120 metr o ddyfnder.
Delwedd aml-belydr o Arklow. Mae’n bosib gweld tonnau a chrychdonnau mawr yn y tywod yn y ddelwedd, i gyfeiriad y de.
|
Delweddau aml-belydr – nodweddion gwely’r môr
Yn y galeri yma mae dewis o nodweddion diddorol a oedd i’w gweld
yn nata'r seinblymiwr aml-belydr a gasglwyd o wely’r môr yn ystod
taith fôr HABMAP
|
Cefnennau o raean lle mae cytref o arfilod o bosib.
Tonnau yn y tywod yn ardal arolwg Arklow.
Nodweddion sy’n creu crychdonnau yn y tywod yn ardal Arklow.
Gogledd Sianel Sant Siôr. Tonnau yn y gwaddodion a nodwedd ar ffurf cefnen â chrib syth tua 460 metr o led a 15 metr o uchder. Mae olion sgwrio o amgylch yr ymylon.
Nodwedd ar ffurf cefnen â chrib syth a welwyd yn rhan ddeheuol Sianel Sant Siôr, tua 570 metr o led a 17 metr o uchder. Mae olion sgwrio amlwg o amgylch yr ymylon.
Gwaddodion graeanog yn dod i’r wyneb dan haen denau o dywod yw’r olion amlwg ar wely’r môr ym Mae Caernarfon.
Gwelyau o farchfisglod (modiolus modiolus) ym Mae Caernarfon. Maen nhw i’w gweld yn amlwg fel tameidiau o dir brith rhwng y tonnau yn y tywod yng nghanol y ddelwedd, ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.
Nodweddion ar ffurf tonnau amlwg yn y tywod ym Mae Caernarfon.
Tonnau yn y tywod yn ardal astudio Celtic Deep.
Llongddrylliad a welwyd yn ardal Celtic Deep. Mae’r llong tua 100 metr o hyd ac yn gorwedd mewn dŵr o 100 metr o ddyfnder a mwy.
|