Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

O’r tir i’r tonnau – cynefinoedd y môr

Mae cynefinoedd y môr - cynefinoedd morol - yn cynnwys rhai sydd ar yr arfordir a’r glannau ac allan ar y môr, yn y dŵr ei hun ac ar wely’r môr.

Mae’r cynefinoedd hyn yn amrywio llawer:


Arfordir, sy’n amrywio o glogwyni creigiog i dwyni tywod a chorsydd heli.


Mae aberoedd, ble bydd afonydd yn cwrdd â’r môr, yn gysylltiadau pwysig rhwng tir a dŵr.
Man cyfarfod arall yw’r traeth neu’r draethlin – y tir rhwng llanw a thrai. Mae gan yr ardaloedd ‘rhynglanwol’ hyn gymunedau arbennig o anifeiliaid a phlanhigion sy’n gallu delio gyda bod o dan ddŵr heli ac yn agored i’r awyr, a hynny ddwywaith y dydd.

Yn y môr mawr, yn aml heb i neb eu gweld na’u cofio, mae amrywiaeth mawr o gynefinoedd a rhywogaethau toreithiog, o sbyngau, anemoni’r môr a chreaduriaid eraill sy’n debyg i blanhigion ac yn creu riffiau, i dywod a graean sy’n cynnal llawer o greaduriaid a’r rheiny, yn eu tro, yn fwyd i anifeiliaid eraill, megis pysgod ac adar y môr.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
Postal address
Y tim cynefinoedd a rhywogaethau
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen