Dyfrgwn
Ers canrifoedd bu dyfrgwn yn ffynnu yn
llynnoedd ac afonydd Cymru ac ar hyd y glannau. Bydd dyfrgwn yn
symud yn gyflym ar dir ond maen nhw’n enwog am eu cyflymdra mawr,
eu gosgeiddrwydd a’u hagwedd chwareus yn y dŵr.
Er eu bod yn symud yn dda ar dir – gan fynd
hyd at 10km mewn un noson – wrth nofio y byddan nhw’n dangos eu
gallu. Bydd y gynffon bwerus yn curo i wthio’r corff llyfn a main
yn ddidrafferth trwy’r dŵr.
A hwythau’n mesur hyd at fetr (gan gynnwys eu
cynffonnau), mae dyfrgwn yn anifeiliaid mawr, ond anaml y gwelwch
chi nhw. Mae ganddyn nhw synhwyrau llym ac os byddan nhw’n arogli,
yn gweld neu glywed person neu elyn, byddan nhw’n ymguddio’n gyflym
mewn llystyfiant neu yn y dŵr.
Yn y nos y bydd dyfrgwn ar eu mwyaf bywiog,
pan fyddan nhw’n hela, yn bridio ac yn cymdeithasu. Yn ystod y
dydd, byddan nhw’n ymlacio trwy orweddian mewn mieri, llwyni neu
laswellt tal. Pysgod yw prif fwyd dyfrgwn ond, yn y gwanwyn, byddan
nhw hefyd yn bwyta amffibiaid, adar a chreaduriaid bach eraill.
Ar gyfnod pan oedd dyfrgwn wedi diflannu o
rannau helaeth o iseldir Lloegr, roedden nhw’n parhau i ffynnu ar
dir mawr Cymru. Syrthiodd eu niferoedd yn ddrwg yn ystod yr 1960au
a’r 1970au ond mae ymgyrchoedd cadwraeth diweddar a gwell ansawdd
dŵr yn golygu eu bod yn adennill eu hen diroedd ar hyd a lled
Cymru.