Morloi
Drwy’r byd, mae 32 o fathau gwahanol o forloi
wedi goroesi hyd yn hyn. Maen nhw’n rhannu cofnod
genetig cyffredin – rhywbeth sy’n awgrymu eu bod wedi byw yn ein
moroedd ers oddeutu 27 miliwn o flynyddoedd, gan ddod o hil
creaduriaid cigysol a oedd yn byw ar y tir, megis dyfrgwn
mawr.
Dim ond dau fath o forlo sy’n byw ar hyd arfordir Cymru – y morlo
llwyd a’r morlo cyffredin Mae eu maint, siâp eu pen a’u
lliw yn eu gwahaniaethu
Morloi llwyd
Mae bron i 40% (oddeutu 125,000) o forloi llwyd y byd i’w cael o
amgylch Ynysoedd Prydain, a cheir poblogaeth eithaf sefydlog o
oddeutu 6,000 yma yng Nghymru. Gall morloi llwyd fod yn
greaduriaid anferth, a gall y morlo gwrywaidd dyfu i fod dros 2
fetr o hyd gan bwyso hyd at 330kg. Mae ganddyn nhw
drwynau Rhufeinig mawr – yn wir, ystyr eu henw gwyddonol,
Halichoerus grypus, yw ‘mochyn môr efo trwyn
bachog’. Llwyd tywyll neu frown ydyn nhw fel arfer, ac
yn aml mae ganddyn nhw flotiau ar eu croen. Ffwr gwyn
meddal sydd gan y morloi bach.
Morloi cyffredin
Mae morloi cyffredin yn eithaf prin yng Nghymru.
Mae’r creaduriaid yma’n llai na’r morloi llwyd, ac mae ganddyn nhw
wynebau crwn, tebyg i wyneb ci. Gall eu lliw amrywio o
lwyd golau i lwyd tywyll, ac yn aml mae ganddyn nhw smotiau neu
gylchoedd tywyll ar eu croen.
Dan y dŵr
Ar y tir, fe all morloi ymddangos yn greaduriaid afrosgo a
thrwsgl, ond maen nhw’n hynod sionc a gosgeiddig dan y
dŵr. Mae gan forloi iach floneg 5 centimedr o drwch ar
eu cyrff er mwyn eu cadw’n gynnes dan y dŵr, ac mae tymheredd eu
cyrff bron yr un fath â thymheredd cyrff bodau dynol.
Gan mai mamaliaid yw morloi, rhaid iddyn nhw ddal eu gwynt dan y
dŵr. Ond yn hytrach na phlymio efo llond eu hysgyfaint
o aer, fel y bydd pobl yn ei wneud, mae morloi’n gollwng eu gwynt
cyn iddyn nhw fentro dan y dŵr.
Mae eu gwaed yn storio mwy o ocsigen na’n gwaed ni – mae hyn yn
eu galluogi i nofio’n haws, ac mae o hefyd yn eu gwneud yn llai
tebygol o ddioddef o barlys môr (sef problem gyffredin i bobl sy’n
deifio, lle mae swigod nitrogen yn ffurfio yn y gwaed wrth i’r
pwysedd ostwng yn rhy sydyn).
Mae’r ocsigen yma sydd ganddyn nhw yn eu gwaed yn caniatáu iddyn
nhw chwilio am fwyd dan y dŵr am oddeutu 8 munud. Wrth
fod yn llonydd neu wrth gysgu dan y dŵr, fe allant aros yno am hyd
at 13 munud.
Gwelir bod nifer o forloi’n deifio’n rheolaidd i ddyfnder o 50
metr, ond mae modd iddyn nhw ddeifio’n llawer
dyfnach.
Un ffordd arall y maen nhw wedi addasu i fywyd dan y dŵr yw eu
gallu i reoli curiad eu calon mewn proses o’r enw
bradycardia. Pan fydd morloi ar wyneb y dŵr,
mae eu calonnau’n curo oddeutu 120 gwaith bob munud wrth iddyn nhw
gael gwared â chynnyrch gwastraff y broses anadlu (carbon deuocsid)
a chymryd ocsigen i’w cyrff. Ond dan y dŵr, mae curiad
calon morloi’n gostwng i oddeutu 40 curiad bob munud, ac mae hyn yn
caniatáu iddyn nhw dreulio mwy o amser dan y dŵr yn dal pysgod.