Rhywogaethau Blaenoriaethol
Yng Nghymru, ceir amrywiaeth anhygoel o
gynefinoedd a rhywogaethau. Mae llawer o’r rhain o bwysigrwydd
Ewropeaidd a rhyngwladol, ac mae gennym gyfrifoldeb arbennig i
sicrhau bod y cynefinoedd a’r rhywogaethau yma’n cael eu cadw mewn
cyflwr da ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Gwirio iechyd rhywogaethau â blaenoriaeth
Cliciwch ar y rhestr isod i weld gwybodaeth am
dueddiadau a statws diweddaraf rhywogaethau a chynefinoedd yng
Nghymru.
Rhestr adran 42: Rhywogaethau a chynefinoedd pwysig iawn yng
Nghymru
Yn dilyn ymgynghoriad manwl, cafodd rhestr Adran 42 o
rywogaethau a chynefinoedd pwysig iawn er mwyn gwarchod amrywiaeth
fiolegol yng Nghymru ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
fis Rhagfyr 2007.
Mae’r rhestr yn cynnwys yr holl gynefinoedd a rhywogaethau â
blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth, yn
ogystal â rhywogaethau a chanddynt arwyddocâd cadwraethol arbennig
yng Nghymru. Rhaid llunio’r rhestr yma yn ôl Deddf yr Amgylchedd
Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, a bydd yn cael ei defnyddio i
arwain a blaenoriaethu camau cadwraethol yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae’n disodli rhestr Adran 74 (‘Mynd yn Wyllt yng Nghymru
2003’).
Rhoddir cydnabyddiaeth i rôl nifer o gynefinoedd newydd ar y
rhestr, gan gynnwys pyllau dÿr a pherllannau traddodiadol. Yn
ogystal â rhywogaethau a restrwyd yn y gorffennol – fel dyfrgwn,
llamidyddion, gwiwerod cochion a grugieir duon – mae’r rhestr
ddiwygiedig yn cynnwys teigrod (gwyfynod), adar y to a nadroedd y
gwair.
Defnyddir Rhestr 42 yn dilyn adolygiad o restr Cynllun
Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau â
blaenoriaeth, sef y dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o flaenoriaethau
cadwraethol a roddwyd ar waith yn y DU. Ers i restr wreiddiol y
Cynllun Gweithredu gael ei llunio ddeng mlynedd yn ôl, mae’r nifer
sydd ar y rhestr wedi cynyddu gan fod yr adolygiad wedi cynnwys
dadansoddiad mwy trylwyr o gynefinoedd a rhywogaethau ehangach, gan
gynnwys rhywogaethau llai adnabyddus. O ganlyniad, mae nifer o
gynefinoedd a rhywogaethau’n cael eu hystyried fel bod â
blaenoriaeth. Mae rhai rhywogaethau newydd gael eu cynnwys gan eu
bod yn dirywio neu dan fygythiad.
Yn ôl Joan Ruddock, Gweinidog y DU dros
Fioamrywiaeth:
"Os ydym am drosglwyddo amgylchedd iach i’r genhedlaeth
nesaf, mae gwarchod bioamrywiaeth yn hollbwysig. Fe fydd y rhestr
newydd yn ein helpu i dargedu ein hadnoddau a’n hymdrechion at y
meysydd sydd eu hangen, ac mae’n dangos ein hymrwymiad i gyhoeddi
blaenoriaethau, targedau a chynlluniau newydd ar gyfer rhoi stop ar
golli bioamrywiaeth erbyn 2010."