Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Gwirio iechyd rhywogaethau
â blaenoriaeth

Crafanc Trillob
(Ranunculus tripartitus)

Dyma flodyn ymenyn dyfrol hardd a bychan sydd i’w gael ar rostiroedd gorllewinol, gwlyb ac ar borfeydd brwynaidd.

Mae ganddo ddail eurgoch arbennig iawn a blodau gwyn mân yn ystod y gwanwyn. Fel arfer, mae’n tyfu mewn pyllau bas, ond weithiau mae’n tyfu mewn traciau cerbydau neu mewn olion carnau – sydd, fel rheol, yn sychu ac yn diflannu yn ystod yr haf.

Mae’r pyllau dros dro hyn ar rostiroedd yn gynefin rhyngwladol bwysig i nifer o blanhigion ac anifeiliaid eraill hefyd, er enghraifft y ganrhi goch fach, pelenllys gronynnog a mursen Benfro; ond, y tu allan i ymylon yr Iwerydd, maen nhw’n brin neu’n anghyffredin. 

Mae’r planhigyn wedi ei ddarganfod ar rywfaint o rostiroedd arfordirol yng ngorllewin Morgannwg, Sir Benfro, de Ceredigion a Ynys Môn a Llŷn – nifer fach, fel arfer, a hynny’n lleol iawn bob amser. Fodd bynnag, fel nifer o flodau unflwydd mae’n ymddangos fod gan y Grafanc trillob ddigonedd o hadau, ac yn aml, mae modd adfer poblogaethau bach (neu boblogaethau colledig, o dro i dro) trwy roi dulliau rheoli priodol a gofalus ar waith.

Dyma gynefin sy’n gyfyngedig drwy’r byd, ac mae de orllewin Prydain ac Iwerddon – a Chymru, yn arbennig – yn cynrychioli dosbarthiad mwyaf gogleddol y cynefin hwn.   O’r herwydd, mae o bwysigrwydd cadwraethol mawr.  Mae Prydain ac Iwerddon yn cynnwys cyfran helaeth o boblogaeth y byd o’r planhigyn hwn: yn wir, nifer cymharol fychan o rywogaethau sydd i’w gweld yma i’r fath raddau o ystyried faint sydd i’w cael yng ngweddill y byd, ac mae planhigion fel y grafanc trillob yn gyfrifoldeb rhyngwladol o bwys.

Statws (Gwarchodaeth gyfreithiol)

  • Rhywogaeth bwysig iawn yng Nghymru (A.42)
  • Rhywogaeth â blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth
  • Yn anfynych yn genedlaethol: Llyfr Data Coch 2007 Prydain Fawr
  • Mewn perygl: Rhestr Goch yr IUCN 2001

Gellir cael gwybodaeth ar www.arkive.org a www.jncc.gov.uk

Mapiau dosbarthu

Mae'r wybodaeth yn dod yn fyw o NBN Gateway.

Ystadegau

Mae gwybodaeth am statws, thueddiadau, targedau a bygythiadau yn dod yn fyw o BARS.

 

Ein safleoedd eraill
Help

Cysylltu â’r Tîm
Postal address
Y tim cynefinoedd a rhywogaethau
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen